Skip to main content

‹‹‹ prev (14)

(16) next ›››

(15)
Ysgol y Llan. 15
Yr oedd dau le agored ar lawr yr ysgol, a
gwelwn ddau ar eu traed, iin ymhob llecyn
agored. Deallais wedyn mai is-athraw ac is-
athrawes oeddynt. Aeth yr ysgolfeistres a fi
at un o honynt, ond nid wyf yn cofìo ond " niw
boi " o'r hyn ddywedai. Yr oeddwn yn medru
darllen Cymraeg yn bur dda erbyn hyn, a
rhoddwyd fì mewn dosbarth plant yn dechreu
darllen Saesneg. Un o lyfrau'r S.P.C.K. oedd
y llyfr darllen, ac y mae'n gas gennyf y Ilyfch-
i^ennau byth, oherwydd y creulondeb ddioddef-
ais wrth geisio dysgu o'r Ilyfr hwnnw. Llanc
diddan oedd yr athraw, a bu'n garedig iawn
wrthyf, ond wedi gwers y darllen aeth i'w le
at ddisgyblion ereill. Buan yr aeth y gair fod
un newj'dd, a gwirion hefyd, wedi dod i'r ysgol.
Yr oedd llygaid amryw o blant creulon arnaf, — •
gwn am danynt i gyd, plant cegog o'r pentref
oedd y rhan fwyaf, — nid ydynt uwch bawd
sawdl byth. Yr oedd yr athraw wedi dweyd
wrthyf yn ddistaw am beidio siarad gair o Gym-
raeg ; ond yr oedd y bechgyn drwg hynny'n
gwneyd popeth fedrent i wneyd i mi waeddi, ac
o'r diwedd Ilwyddasant. CoIIais fy nhymer, a
dechreuais ddweyd fy meddwl wrth y chwilgi
bradwrus ddyfeisiai sut i'm poenydio. Gydag
i mi ddweyd fy Nghymraeg cryf, chwarddodd
pawb, a rhoddwyd llinyn am fy ngwddf, a
thocyn pren trwm wrtho. Ni wyddwn ar wyneb
y ddaear beth oedd, yr oeddwn wedi gweled
tocyn cyffelyb am wddf ci i'w rwystro i redeg
ar ol defaid. Tybed ai i'm rhwystro adre y
rhowd y tocyn hwnnw am fy ngwddf i? O'r
diwedd daeth canol dydd, awr y gollwng.
Daeth yr ysgolfeistres yno a gwialen yn ei Ilaw.
Gofynnodd ryw gwestiwn, a chyfeiriodd pob
plentyn gwasaidd ei fys ataf fì. Daeth rhyw-

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence