Matheson Collection > Clych adgof
(16)
Download files
Complete book:
Individual page:
Thumbnail gallery: Grid view | List view
i6 Clych Adgof.
beth tebyg i wên dros ei gwyneb pan welodd y
tocyn am fy ngwddf i. Dywedodd ryw rigwm
hir wrthyf na fedrwn ddeall gair o hono, dang-
hosodd y wialen imi, ond ni chyffyrddodd â mi.
Tynnwyd y tocyn i ffwrdd, a deallais wedi
hynny mai am siarad Cymraeg y rhoddid ef am
wddf.
Bu'r tocyn hwnnw am fy ngwddf gannoedd
o weithiau wedi hynny. Dyma fel y gwneid,
— 'pan glywid plentyn yn dweyd gair o Gymraeg,
yr oeddis i ddweyd wrth yr athraw, yna
rhoddid y tocyn am wddf y siaradwr ; ac y;-
oedd i fod am ei wddf hyd nes y clywai'r hwn
a'i gwisgai rywun arall yn siarad Cymraeg,
pryd y symudid ef at hwnnw druan. Ar ddi-
wedd yr ysgol yr oedd yr hwn fyddai yn ei
wisgo i gael gwialenodiad ar draws ei law. Bob
dydd byddai'r tocyp, fel pe yn ei bwysau e;
hun, o bob cwr o'r ysgol, yn dod am fy ngwddi'
i. Y mae hyn yn gysur i mi hyd heddyw, — ni
cheisiais erioed gael llonydd gan y tocyn trwy
ei drosglwyddo i un arall. Ni wyddwn ddini
am egwyddor y peth, ond yr oedd fy natur yn
^wrthryfela yn erbyn y dull melldigedig hwn o
ddinistrio sylfeini cymeriad plentyn. Dysgii
plentyn i wylio plentyn Uai'n siarad iaith ei
fam, er mwyn trosglwyddo'r gosb arno ef ! Na.
nid aeth y tocyn erioed oddi am fy ngwddf, di-
oddefais wialenodiad bob dydd fel y doi diwedd
yr ysgol.
Erbyn heddyw y mae llawer o'r rhai fu'n
cyd-ddysgu â mi, — yn fechgyn ac yn ferched, —
wedi marw. Bu rhai farw wedi dioddef a
nychu gartref, bu rhai farw mewn gwledydd
pell. Plant tyner a charedig oedd y rhain,
plant yr oedd cosb un arall yn peri mwy o boen
iddynt nag iddo ef. Ac ehedodd llawer o hon-

Set display mode to: Large image | Transcription
Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated.
Early Gaelic Book Collections > Matheson Collection > Clych adgof > (16) |
---|
Permanent URL | https://digital.nls.uk/76558008 |
---|
Description | Items from a collection of 170 volumes relating to Gaelic matters. Mainly philological works in the Celtic and some non-Celtic languages. Some books extensively annotated by Angus Matheson, the first Professor of Celtic at Glasgow University. |
---|
Description | Selected items from five 'Special and Named Printed Collections'. Includes books in Gaelic and other Celtic languages, works about the Gaels, their languages, literature, culture and history. |
---|