Skip to main content

‹‹‹ prev (13)

(15) next ›››

(14)
.14 Clych Ads^of.
perthyn iddo ; ac yr oedd ei wraig, boneddiges
dal urddasol, yn cymeryd dyddordeb mawr yn
addysg yr ardal. Yr adeg yr es i i'r ysgol
gyntaf, yr oedd yno ysgolfeistres. Awd a fi
i'r ty ; yr oedd yr ysgol wedi dechre, ac nid
oedd blentyn yn y golwg ar y Llan. Daeth yr
ysgolfeistres atom, — dynes fechan. a llygaid
treiddgar, ac yn dal ei dwylaw o'i blaen y naiU
ar y llall. Siaradai dipyn o Gymraeg lled-
ieithog. iaith y werin : Saesneg. mae'n amlwg,
oedd ei hiaith hi, — iaith y bobl fonheddig, iaith
y bobl ddieithr oedd yn lletya yn y Plâs, a iaith
y per.son o sir Aberteifi. Ni fedrai wenu ond
wrth siarad Saesneg. Sur iawn oedd ei gwep
wrth orfod diraddio ei hun trwy siarad Cym-
raeg ; o ran hynny, surni welais i ar ei gwedd
erioed, ond pan wisgai ei gwyneb teneu â gwên
i gyfarfod y foneddiges hael oedd yn talu ei
chyflog iddi. Ni wrandewais i ar ei geiriau,
ac nid oeddwn yn hoffii ei gwyneb, meddyliwn
am drwyn llwynoges welais yn f'ymyl unwaith
wedi nos.
" Fy machgen i," ebai fy mam, " dyma dy
feistres newydd. Edrych arni, tyn big dy gan
o dy geg, mae hi'n mynd i ddysgu pob peth i ti.
Ysgwyd law a hi."
Estynnodd ei Ilaw ataf, gyda gwên wan yn
marw ar ei gwyneb, — " gwinawn," meddai.
" mi dysgwn ni pob peth sydd isio i gwbod
iddo ; mi dysgwn ni o sut i bihafio."
Nid dysgu sut i fihafio oedd arnaf fi eisiau,
ond dysgu sut i wneyd pont a sut i wneyd capel.
Daeth awydd mawr drosof am fynd adre gyda
fy mam ; ond ar ol yr ysgolfeistres y gorfod i
mi fynd. Agorwyd drws yr ysgol ; clywn
ddadẁrdd rhyfedd. a ewelwn blant wedi eu
pacio'n dyn wrth eu gilydd ar lawer o feinciau.

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence