Skip to main content

‹‹‹ prev (313)

(315) next ›››

(314)
218 CANU LLYWARCH HEN XI. 56a-57a
echwyd, echŵydd ; cf. Llyd. ec'hoaz "amseroedd a
lleoedd gorffwys i'r anifeiliaid", Troude.
56a rwng Trenn a Thraual : gw. ar 55a. Hysbys yw
Mathrafal, priflys Powys, ger Llanfair Caer Einion : daw
o Ma- "gwastadedd, lle", a -trafal. Treigliad llaes ar ôl
ma-, cf. Ma-thafarn, Ma.-chynllaith, Me-chain. Saif Math-
rafal (gw. M.C. iv, 192-4) yn agos i Afon Fyrnwy, ond
methais â chael enw Trafal ar ffrwd yn y cyfìiniau. Tyb-
iwyd mai enw ydoedd ar y Fyrnwy neu ran ohoni, gw.
M.C. iv, 81-2 : "The Yyrnwy has two sources — the Banw
. . . to Glanbanw Bridge, from whence it is known to its
junction with the other branch as the Einion. The other
branch rises above Rhiwargor in Llanwddyn, where it is
properly called the Mechen, although sometimes wrongly
called the Vyrnwy. This branch in the time of Llywarch
Hen was known as the Trafal. Hence Mantrafal (Math-
rafal) . . . which is situate near the banks and confluence of
the two streams. From this point the united streams are
properly called Evyrnwy". Tipyn yn bendant yw hyn
oll, a gormod o roi damcaniaeth fel ffaith, ond dengys y
cymysgu sydd ar enwau afonydd, gw. M.C. ii, 7, 323 : "The
Banwy receives the Nant yr Eira river. . . . This river, as it
appears from the Charter of Gwenwynwyn . . . 1200, was
called Efernwy, and this is the present name of the Banwy
when it goes beyond Llanfair to the Vale of Meifod, and is
joined by the Llanwddyn river, also called Efernwy" ; 351 ;
Gweith Gwallter Mechain, iii, 105-8 : M.C. v, 105, "Traval
. . . probably either the Bechan or the Einion, which join
their waters to form the Vyrnwy near Mathrafal".
56c brynar, branar, G. 72, R.C. xxxii, 196 ; xl, 381, 385 ;
xli, 224 ; A.C.L. iii, 179, Gw. branar "fallow field" ; C.I.L.
245 ; B. ii, 1 1, eredic a brynaru a llyfnu ; 12, Brynar Ebrill
. . . gwyl leuan )t eil brynar . . . ar y brynar trydyd. kwys
lydan ; gw. S.E. dan braenar; H. 70, ar dal branar ; 109,
branar a bedrawd.
57a Y mae P. yn dechrau yma eto â llythyren fras.
Freuer, chwaer i Heledd. Buasai íarw cyn hyn (fel yr
ymddengys), neu yn ystod y trychineb, ond o flaen ei
brodyr. Cedwir ei henw hi neu arall yn Nan(t)ffreuer,

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence