Skip to main content

‹‹‹ prev (312)

(314) next ›››

(313)
XI. 54c-55c NODIADAU 217
gynanrud R., gynannrud P., gyuannrud T., ond cf. B.T.
71, Dydaw gwr o gwd ( = gudd) a wna hyfamrud A chat y
gynhon. Felly darll. yma gyuamrud cat, cf. H. 98, Brwyn-
gwyn gyuamwyn gyuamrut afyrd^yjrth. Daw cyfamrudd
o cyf-, am-, a rhudd, a golyga gythrwíì brwydr, neu'r
cyffelyb, cf. G. 22, amgoch.
54c neur derynt, darfuant, "They have perished", llu. deryw, o
darfod. Sylwer ar gwerin yn y cyflwr enwol rhydd.
55a rwng Trenn a Throdwyd, rhwng ys: afonydd hyn. Os
Tern yw'r Trenn, ac ni welaf ddim yn erbyn credu hynny,
nid yw'n dilyn mai'r Roden, afon a ymuna â hi yw Trod-
wydd, cf. Panton 30, 32, "Roden a river in Shropshire that
falls into the Tern near a place called Wilbyton in that
county", gw. Bowcock, S.P.N. 196 : y ffurfiau ganddo ef
yw Hrodene yn yr unfed ganrif ar ddeg ; Domesday
Rodene; 1312, Rodene, a rhydd yr enwau Roden, Roden-
hurst, Rodington (Rodenton) ar leoedd yn ymyl cymer
Roden a Tern. Pe derbynnid mai'r Roden yw Trodwydd,
dyna ben ar leoli'r dref wen ger Croesoswallt. Ond ni
welaf reidrwydd dros ddal mai afon yn llifo i'r Tern yw
Trodwydd, oni chredir hefyd mai cainc o'r un afon yw
Trafal yn 56a. Nid yw enw fel Rhwng Gwy a Hafren yn
profi o angenrheidrwydd mai cainc o un yw'r Uall. Yn
erbyn Trodwydd = Roden y raae colli'r T-, a throi -wydd
yn -en, oni cheir dadl gryfach o blaid. Y mae mwy lawer
dros ddal mai'r Roden yw'r afon a elwir Trydonwy yn 67b,
68b — cainc o Drenn yw honno. Er coUi'r t-, ceir yma
-en- i ateb i'r -onwy. Aflonydd iawn yw enwau rhai
afonydd, tra erys eraiU mewn rhyw ffurf neu'i gilydd am
ganrifoedd. Ceir rhodwydd uchod, V, lOc, ac nid Y^''n
hollol amhosibl mai bai am hwnnw sydd yma, effaith a
Thraual yn 56a. Ceir Rhydwith fel enw ffarm ya Nhre-
prenal, Llanymynech, M.C. xiii, 414.
55b gnodach, mwy arferol, gradd gymharol gnawd. Ar -d-
heb galedu o flaen -ach, gw. W.G. 242.
tonn, benywaidd twnn, toredig, ysgwyt donn fuasai'n
gywir, ond caledwyd i-d- i t-t.
55c nogyt, ffurf lawnach noc "than", cf. 56c.

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence