Skip to main content

‹‹‹ prev (218)

(220) next ›››

(219)
III. 19a-20a NODIADAU 123
19a ny thyrvis. Os tyrfu, cf. Ll. turbo "to disturb, to throw
into disorder or confusion", cynhyrfu. Yn ôl B.T. 29,
Eidon y wan, hwch y tyruu. Cyfeiria D. at yr enghraifft
hon wrth esbonio turio ("Terram effodere more porcorum.
Taliesin dicit tyrfu), cf. R.P. 8 b 11, gnawt y uoch turyaw
kylor. Os yr un gair yw yma, anodd credu bod ny yn
gywir. Pes newidid i ry, a ellid yr ystyr "Crynodd fy
mraich" ? Ond ansicr wyf a all tyrfu olygu hynny, gw.
B.T. 77, 8 (tyruawt molut) ac uchod ar I, 20a, tyruit.
Credaf y dylid darll. ry i fynd gyda ry gardes ; neur dorres.
Gw. ymhellach B.T. 64, 11, rytharuawr (darll. rythar-
nawr ?), lle ceir treigliad llaes ar ôl ry (cf. B.T. 64, 4,
rychanaf; B.B.C. 88, Typhrinom) ; B. iii, 263-5, ar tarnu.
Neu cf. tarfu (D. arcere, dispergere, absterrere, T.W.
absterreo "tarfu ymaith, dychrynu, hylltrawu". Y mae
hwn (a hylltrawu) yn nes i roi ystyr addas ; ac nid oes
anhawster ynglŷn â darll. teruis. Yn y Voc. Com. rhydd
Norris, Corn. Drania ii, 424, tarnutuan "phantasma", a
chynnig darll. taruutuan (gw. Wms. Lex. tarofan, "A
phantom, fright, terror" ; tarosfan). Rhydd D. tarfutan
(o'i Li. Land. ef, sef rhyw gopi o'r Voc. Corn.) "phantasma"
= T.W. taruudan (s.v.) : gw. ar hyn Loth, R.C. xli, 410.
ry gardws P.T., gardwys R. ; os darll. gardes ceir odl
lawn trwy'r englyn, er nad yw hynny yn orfodol. Cymeraf
y ferf fel garddu (nid treigliad o carddu) ; cf. B.T. 64,
rybarnawr, rybarn, lle na ddangosir y treigliad ar ôl vy
mewn hen gerdd. Nid yw garddu gan D., ond cf. B.T. 66,
Dayar yn crynu ac eluyd yn gardu; Llan. 2, 215, gwelet
dyn truan yn gardu dwylyaw a garym druan dostur ganthaw;
Cy. iv, hawth vyd gwelet dyn yn garthu dwylaw . . . trws
pren mawr yn garthu wrth y gwympaw (? R.P. 39 b 36,
gwedy gardu rwy=H. 35, cardu ; B.T. 24, 10, dyar gardei
bun). Ystyr garddu, felly, yw cyfEroi, ysgwyd, crynu ;
garddu dwylo "wringing one's hands" ? Deallaf y 11. oU
i olygu fod braich y bardd wedi coUi ei nerth, yn crynu ;
ei eis (mynwes) yn cyffroi ; ac felly arweinir at y 11. nesaf,
"Fy nghalon a dorrodd".
20a Pam y dychwelwyd at y gelain ? Yr unig ystyr i dorri'r
pen a'i gludo ymaith oedd nad oedd cyfle i gladdu'r corfí

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence