Skip to main content

‹‹‹ prev (219)

(221) next ›››

(220)
124 CANU LLYWARCH HEN IH. 20a-22c
I oll. Ond dengys 20-27 fod y corff hefyd wedi ei achub
I a'i gladdu'n barchus. A oedd stori am rywrai yn dych-
1 welyd i faes y lladd i'r pwrpas hwnnw ?
1 celein veinwen, gan mai benywaidd yw celain, gw. W.M.
237a.
a oloir, cleddir, o golo. Pe darllenid golôir trwodd, ceid
cyseinedd gyfoethocach, a 11. o 10 ; ond ceir cynifer o
unarddegau yn y 11. gyntaf o englyn penfyr fel nad doeth
newid. Ar golo rhydd D. ystyr Dr. Powell, sef "cyfoeth"
{divitiae) : ei gynnig ef yw "utile, utilitas", defnyddiol,
buddiol ; budd, lles" ; eto cymhara'r Llyd. golo "tego,
tegumentum". Ond un ystyr go bendant oedd cuddio,
claddu ; gw. Rhys, Celtic Insc. of France and Italy, 53, ar
Galeg logitoe, berf o loga "a grave, burial, or lying place" ;
td. 73, "We have lo, also for log- in the Med. Welsh golo
"bury, burial, interment" for an early vo-log- and gwely
"a bed" (for early vo-log-ion)" ; cf. M.A. 146a, arglwydi /
Mor yw gwael eu goloi ; 215b, Agolo ker man ro meinnyawc/
Gelynyon saeson sidanawc ; 230 b, mynwent iti / Golo nest
goleu direidi ; B.A. 17, A chyn e olo . . . gorgolches e greu
y seirch ; 37, a chin i olo atan titguet daiar ; B.B.C. 107,
kin y olo dan tywarch ; Gw. folach "cover, concealing",
Windisch, W. 561 ; "a covering, the caul, a hut," A.C.L. iii,
194. Am yr ystyr o guddio'n syml, gw. H. 252, Gwedy
golo dyt o dywyllawr ; B.T. 80, ac yn eryri ymoloi.
20c tat Owein, sef Urien.
21c vyg lieuynderw, gw. ar I, 22b.
22b a edewit, gw. P.K.M. 191 ar edewit yn ystyr "gadawyd" ;
berfenw adaw, cf. B.B.C. 107, oe adav ar lan awon (am
gorff arall). Gellir 11. o chwesill, wrth adael a allan ;
hawdd fuasai ei rhoi i mewn wrth batrwm 20b, 21b. Neu
darll. ae dewit, neu a dewit, a chwilio am gytras i addef
"tŷ" ; goddef : neu ar ddelw 26b, enw planhigyn, cf.
gwyáá-fid, erfid.
22c llam, cf. 25c, 26c, 27c, 31b ; B.T. 66, 15; B.A. 31, 9.
Yn M.A. 148b, ceir cyfres o eiriau am drychineb, "ail
marth, yrth, gawd, diliw, dyd brawd" . Yna daw "Ail llam
am edfyn / Yw llad llywelyn / Ail dechryn am dechre".
Marw Madog oedd y llam arall. Cymhara Loth, R.C. xxix.

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence