Skip to main content

‹‹‹ prev (217)

(219) next ›››

(218)
122 CANU I.LYWARCH HEN III. 16c-18b
gordwy ( = R.M. 101, ble mae plant y gwr am llathrudawd
yg gordwy ; cf. llathlud "lladrad" ; Gw. slat "robbery").
Gwraig Doged sy'n llefaru wedi lladd ei gŵr, a'i dwyn
hithau ymaith drwy drais, a'i rhoi i ŵr arall. Felly "dug
ymaith" yw rydyallas, cymryd gafael ynddi a'i chipio i
ffwrdd (cf. deall "comprehend" ac "apprehend") ; neu yng
ngeiriau W.M. 227 "Uad y brenhin a dwyn y wreic atref
ganthu a orugant"; cf. M.A. 149a, Can ry gallas Duw draig
Powys ( = canys dug Duw bennaeth Powys) ; 255b, Trist
wyf, treis Duw ry gallas ; 25 la, Dauyd . . . Dyfrydet gwynet,
gwae ni ry allat (gwae ni ddarfod dwyn Dafydd ymaith) ;
225b, Anwas ry gallas pan ry golled ; 242a, O golled ym
galled mawrwaeth / Gallas drais diredd catraeth . . . ỳan
aeth. Gwrthyd Loth ei hen syniad yn R.C. xxxii, 198,
a dyry "enlever de force, fair mourir". Cf. isod 26c, 27c.
Ar ôl 16c, rhydd H.E. 28, M.A. 85b, englyn arall na wn
ple cafwyd ef :
Pen a borthav o du pawl,
Pen Urien, udd dragonawl ;
A chyd dêl dydd brawd, ni'm tawr.
Am ystyr c, cf. M.A. 148b, Och Duw na dodyw / Dydbrawd
can deryw ; 193a, Mi nym dawr ken del dros eluyt / Llanw
o uor a llif o uynyt.
17a portha{, "I carry" ; a'm porthes "who fed me"; chwarae
ar amwysedd ỳorthi.
17b yr vy lles, sef er neu ar fy Ues. Am ar, er, gw. B. iii, 259.
17c Ilym digones. Ar digoni "gwneuthur", gw. Lewis,
H.G.Cr. 284 ; B. vi, 207 ; B.B.C. 68, gur a digonei da ar
y arweu. Yr un sydd wedi "digoni" yma yw llaw'r bardd
(gwae hi !) ; gwnaeth waith llym iawn ar gelain ei arglwydd.
Ac nid er Iles i'r bardd y rhoes y ddyrnod, pa mor angen-
rheidiol bynnag, ond er colled enbyd. Y fi&gur meiosis
sydd yn 17b.
18b ewynvriw gwaet, ewyn gwaedlyd, cf. B.T. 3, a chyn del
ewynuriw ar vyg geneu (h.y. cyn angau). Atega hyn y
cywiriad ar am ac y llsgr. Am y briw yn y gair cyfansawdd,
cf. malu yn malu ewyn "to foam at the lips", neu G. 77 ar
gwaeturiw, etc. ; H. 331, eiliw ewynuriw gwynwiw gwanec ;
122, lliw ewynvryw tec rac tonn nawued.

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence