Skip to main content

‹‹‹ prev (162)

(164) next ›››

(163)
lc-14a NODIADAU 67
gair, medd Loth, R.C. xxxii, 194, a'r Gw. fó "da") ; a'r
terfyniad a welir yn ma-es, neu llaw-es. Ond golygai hyn
aberthu'r posibilrwydd o gysylltu'r testun â'r enghraiSt o
dywaes yn M.A. 202a. Coeglyd yw'r sylw, "Diau fod dy
haeriad yn wir oU ! Ond nid oes neb by^ i'w hategu â'i
dystiolaeth".
eidyl hen. Anodd deall sut i gymryd y 11. gan y gall
olygu dau beth : "Ni bu eiddil-hen yn fachgen", h.y. y
mae'r hen ŵr eiddil wedi anghofio beth yw bod yn fachgen
ieuanc ; neu ynteu, "Nid eiddil fu'r hen ŵr pan oedd yn
fachgen". Soniwn am wan hen a gwan ifanc, ac y mae
hynny o blaid y cyntaf. Y mae II, 13c, mor amwys â'r
11. hon ; yno hefyd gellir cymryd eidyl hen gyda'i gilydd,
neu ynteu wneud brawddeg enwol ohonynt, "weak is the
old ; slow are his movements". Yn y testun y mae'r
ail ystyr yn cyd-fynd mor dda â'r coegni sydd yD. yr
englyn, ac mor wir am ymffrost yr hen yn ei wrhydri yn ei
ieuenctid (cf. IV, 1-4), nes fy nhueddu bellach i'w dderbyn.
Llawen, enw'r afon yr oedd Rhyd Forlas (18c, 22c)
arni ? Cynnig Pughe, H.E. 131, mai'r Lune, yr afon y saif
Lancaster arni : yn ôl Cymru O. Jones Uaddwyd Gwên "yn
Rhyd Morlas, afonig yn tarddu yn mynydd Selattyn, ac yn
arllwys i'r Geiriog. Cedwir ei enw yn y palas a saif ar lan y
Forlas, yr hwn a elwir Prys Gwen" (ar y map heddiw Prees-
gweene ger Chirk) . Yn sicr , dyma'r ardal y disgwylid cofîa am
fab Llywarch ; ond ni fedrais ddarganfod yr enw yno.
Eithr cf . Cwm Llawenog yng Nglyn Ceiriog ; Lleweni, plas
y Salsbrîaid, ger Dinbych, ar lan Clwyd (o llawen a'r ter-
fyniad -i, nid -y fel O.J., gw. Lyweni yn odli â hi, Gwynn
Jones, T.A. i, 121) : yn Nant Ffrancon ceir Dol Lawen
(neu Dol Awen). Deng^'S y rhain, efallai, fod llawen yn
digwydd mewn enwau lleoedd.
yd welas : cf. 15a, yd wylwys ; 16a, wyliis ; 18a, a
wylyas. Felly y ferf yw gwyliaw "to watch". Dengys
wel- y testun ôl orgraff ryw vvTeiddiol lle ceid e am y.
Methwyd ag adnabod y gair yn ei hen ddiwyg, a chadwyd
yr hen ffurf y tro cyntaf ; yna, wedi ei ddeall, fe'i newidiwyd
yn rheolaidd i wyl-. O'i flaen rhydd R. yd (sef ydd, yn ei
orgrafi ef) ; P. ith ; T. yth. Ceir yd yn bur gyffredin

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence