Skip to main content

‹‹‹ prev (163)

(165) next ›››

(164)
68 CANU LLYWARCH HEN I. 14b-14c
o flaen berf mewn canu cynnar, a threiglir i'r feddal ar
ei ôl, gw. isod VI, 5a, yt ganant : VIII, la, yd gan, y
cyntaf o'r Llyfr Coch lle saif yt am yd heddiw, a'r ail o'r
Llyfr Du, lle'r ysgrifennir yr un sain fel yd. Parai'r fEurf
drafferth i'r copîwyr, a chymysgid ef ag it a safai mewn
hen destunau am ith, yth ; cf. Sk. F.A.B. 82, KywÌT yth
elwir : 101, Enwir yt elwir : Kewir yth elwir : 106, Enuir
ith elwir.
Yn y testun, dylasai R. fod wedi rhoi yt ; ond dengys
P.T. mai th oedd y gytsain olaf yn y Llyfr Gwyn. Tybiodd
R. mai enghraifft oedd o th am dd (cf. B.B.C. 34, 10, forth
am ffordd) , a throes hi yn d (sef dd yn ei orgraS ef) . Heddiw
arferem y yn syml, heb dreiglo'r ferf, neu a gyda'r ferf
dreigledig.
Sylwer ar y rhyddid oedd gan y bardd i arfer gwahanol
derfyniadau y trydydd perffaith o'r ferf ; a'r modd y
tystia P.T. i -ws yn erbyn -wys R. yn 15a.
14b athuc. Fel rheol 6 sill sydd yn ail linell englyn o'r
math hwn : dichon felly y dylid darll. yma catgathuc,
neu catgaduc; cf. R.P. 70b, eil kynuawr catgaduc, gw. ar
hwnnw G. 93a. Ystyr caddug yn ôl Ll.-J. yw "caen,
gorchudd" ; yn ôl Loth, R.C. xxix, 23, "brwydr" gw.
hefyd S.E. Rhydd D. a T.W. "tywyllwch, niwl" (caligo,
obscuritas, nebula), fel yr ystyron ; a geUid cynnig darll.
yr caduc "er caddug, er tywyllwch", neu yg caduc. Ni wn
beth yw athuc.
ny techas (cf. III, 3 b, ny tech ; ac 18c, ny thechas, lle
dangosir y treigliad rheolaidd) gorff. 3ydd. un. techu "cilio,
ffoi".
14c oer adrawd, "trist yw'r hanes" ; defnyddir oer yn aml
am drist ; cf. XI, 29a.
clawd gorlas. Gall clawdd olygu ffos neu wal bridd,
"ditch" a "dyke" ; cf. y clawdd y syrth y dall iddo a
Chlawdd Offa. Yma, os enw cyffredin, "green dyke", cf.
H. 16, gorlas gwellt didrif ; os enw Ue, cf. Forlas yn ISb,
22c. Y mae'r gynghanedd â glawd o blaid gorlas ; a hefyd
Morlas nid Forlas, a geffìd ar ôl enw gwrywaidd fel clawdd.
Codid cloddiau pridd gyferbyn â'r rhydau i'w hamddiffyn.
Cf. V, lOc, ar Rodwydd Forlas gwiliaf.

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence