Skip to main content

‹‹‹ prev (163)

(165) next ›››

(164)
i6o PROFEDIGAETHAU
gweinidog. a gwell a fyddai i cnwi ofyn i Mr. Simon ddyfod
yma i gael tamaid o swper gyda Mr. Huw.^, Siop y Oroes, a
Mr. Denman."
Hyfrydwch gan Mrs. Trefor ydoedd gwneud hyn, ac nid
annifyr gan Mr. Simon ydoedd cydsynio, oblegid clywsai fod
Capteu Trefor yn ŵr o ddylanwad yn y gyraydogaeíh, ac, hyd
yn hyn, ni feddai ond cydnabyddiaeth anmherffaith iawn âg ef
a'r teulu. Mae'n wir ei fod wedi sìjhoi ar Miss Trefor, ac wedi
bod yn siarad unwaith neu ddwy gyda Mrs. Trefor.
Nid drychfeddwl yn unig, erbyn hyn, ydoedd y fentar
newydd, sef gwaith Coed Madog. Na, yr oedd y Capten wedi
gosod amryw ddynion ar waith i sincio, ac eisioes wedi tynu
allan y planiaii o'r office, yr en'ììnc-liome, &c., ac mewn goheb-
iaeth am machinery. "Oblegid," ys dywedai y Capten, " yr
oedd yn rhaid edrych ar y fîaith yn ei gwyneb wrth gychwyn,
y byddai i'w hen elyn, sef dw'r, yn sicr o ddaugos ei ddanedd,
ac y byddai raid i gwmni Coed Madog ddangos iddo yntau fod
dyfais dyn yn y íTurf o machinery yn drech nag ef. Yn wir,"
meddai y Capten, " lle bynag y mae i^lwm mawr, y mae yno
hefyd ddw'r mawr. Megis, yn fynych iawn, y mae yn rhaid
myn'd trwy dàn — yn y ífurf o gas—ì gael glo, felly y mae'n
rhaid, yn mron yn ddieithriad, myn'd trwy ddw'r i gael plwm.
Mae i bob trysor, syr," meddai y Capten, " mewn natur a gras
ei wyliwr eiddigus, a gwyliwr y plwm ydyw Dw'r. Ond, gyda
bendith a rhwydeb, ni a ddygwn y caffaeliad o law y cadarn.
Medrusrwydd, amynedd, ffydd, a chalon i fentro, ac nid oes
genyf ofn na'r amheuaeth lleiaf na welir y gymydogaeth hou
eto yn lìwyddianus, a dynion, o herwydd cyfîawnder gwaith,
ar ben eu digon."
Yr oedd Enoc Huws, erbyu hyn, yn ymwelydd cyson ;\
Thy'nyrardd, ac wedi gorchfygu llawer ar ei yswildod, a magu
rawy o wroldeb nag y tybiasai efe ei hun un tro yn alluog o
hoiio. Yr ocdd yn iechyd i galou d}-n sylwi ar y cyfuewidiad
dymunol a ddaethai drosto. Y'n lle— fel yr arferai— bod â'i
holl fryd ar y siop— y cyntaf yn agor a'r olaf yn cau, ac wedi
cau, yn llusgo ei hun yn flinedig yn ei ddiUad blodiog i'r o^§l<-e
i ysmygu o getyn byr i aros amser gwely — yr oedd efe yn awr,
fel masnachwr parchus ac annibynol, yn gorchymyn cau y siop
can gynted ag y clywai efe y gloch wyth. Yna elai yn syth i'r
llofît i eiUio ac ymolchi— deuai i lawr y grisiau fel pin mewn

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence