Skip to main content

‹‹‹ prev (162)

(164) next ›››

(163)
ENOC HUWS. ' 159
aelodau Betnel yn dibynu yn hollol ar Bwllygwynfc am eu
cynhaliaetli, oud felly y bu; a phwy a all ragweled digwydd-
iadau o'r fath? Yr oedd y cwrs wedi ei gymeryd, ac mwyach
nid oedd dim iV wneud ond y goreu o hono. Ond yr oedd
yno rai gwrthfugcilwyr bron ag awgrymu nad oedd yr hoU
anffawd ond barn ar eglwys Bethel am yr hyn a wnaeth.
Tipyn beth, hefyd, oedd fod eglwysi eraill, ac hj'd yn nod
Eglwys Loegr, yn gorfod dyoddefoddiwrthy /ar;i a ddaeth ar
eglwys y Methodistiaid !
Ni fuasai Capten Trefor, o herwydd amgylchiadau ar.orfod,
yn bresenol yn y cyfarfodydd eglwysig er ys rhai misoedd, ac
folly yr oedd yr eglwys ■wedi gorfod myned trwy yr argyfwng
ddewis bugail heb gynorthwy ei farn ef. Cyflenwid y Capteu
â holl fanylion trafodaethau y seiat gan Mrs. Trefor, yr hon
oedd yn hynod íTyddloa yn y moddion. Nid anfynych y gie.-ynai
Mrs. Trefor nad allai y Capten gynorthwyo y brodyr yn y tra-
fodaethau hyn, ond atebai y Capten—
"Chwi wyddoch, Sarah, er fod amgylchiadau bydol, mewn
ífordd o siarad, yn cymeryd fy holl amser, o herwydd fod
bywoliaeth llawer teulu yn dybynu arnaf, chwi wyddoch,
moddaf, fod fy nghalon gyda chwi — 'rwyf yn bresenol gyda
chwi yn yr ysbryd, er yn abseuol ran y corph, ac'rwyf yn medd-
wl na pherífeithir chwithau hebof fiuau hefyd." Ac ychwaneg-
ai y Capteu, "o horwydd fy mod yn cydweled yn hollol â'r
hyn y mae eglwys Bethel wedi ei wneud— sef dewis Mr. Simoa
i'u gwasanaethu, nid wyf yn gweled, meddaf, y buasai y result
yn wahanol, hyd yn nod pe buaswn yn bresenol yn yr holl
gyfarfodydd, oblegid fe ẃyr pawb fy mod bob amser yn bleidiol
i fugeiliaeth eglwysig, a fy mod, ar fwy nag un achlysur, wedi
dangos, gyda rhesymau teg ac auwrthwynebadwy, yr afresym-
oldeb i ni, mwj- nag uu euwad arall, fod yn amddifad o
weinidog— cwbl rydd oddiwrth ofalon bydol— i edrych ar ol
Iles ysbrydol yr aelodau a'r gymydogaeth yn gyffrediuol."
Ehoddai y mycegiad hwn a'r cyífelyb foddlonrwydd i Mrs.
Trefor fod eglwys Bethel wedi cael ei chadw rhag gwneud cam-
gymeriad, er nad oedd y Capteu wedi ei helpu à'i gynghoriou.
1 ddangos yn helaethach ei gymeradwyaeth o'r hyn a wnaed
gan yr eglwys, ebe'r Capten, ryw ddiwrnod —
" Sarah, er nad ydyw ein hamgylchiadau y peth y buont, nid
gweddus i ni ddaugos un math oerfelgarwch tuag at eia

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence