Skip to main content

‹‹‹ prev (106)

(108) next ›››

(107)
Rhydychen. 107
" Mae honyna'n well na'r cldihareb Ysgot-
aidd am y ty gwydr. Dywedwch rai o'r lleill
wrthyni."
Cyfieithias hynny o ddiarhebion oeddwn yn
gofio, gan wneyd y camgymeriadau rhyfeddaf,
oherwydd trwsgl iawn wyf yn fy Saesneg. Prin
y medrai'r bechgyn ereill, er boneddigeiddied
oeddynt, beidio chwerthin ; ond coethai'r Master
fy Saesneg, nes yr oedd yr hen ddiarhebion yn
loew yn eu gwisg newydd. Rhyngom troisom
enw'r alaw " CTlan Meddwdod Mwyii" yn
" Sweet Verge of Drunkenness." " Cyfieithiad
da iawn," ebai, " yr wyf yn cofio cydwladwr i
chwi na fydd byth yn peidio condemnio y lan
yna; yr ydych yn gwybod am Ruffydd Ellis, ond
ydych?"
Wrth adael ystafell foreubryd y Master,
teimlwn fod gan bob un o'r bechgyn hyn un
cysur nas gallwn i ei hawlio. A dyma oedd, —
teimlo mai nid ef e oedd y ffwl mwyaf yn y brec-
west y bore hwnnw. Nid oeddwn yn ddigon
hunanol i fedru cuddio oddiwrthyf fy hun y
ffaith fy mod wedi gwneyd asyn ohonof fy hun,
a hynny ym mhresenoldeb Jowett.
" Hidiwch befo, meddwn wrthyf fy hun,
gan geisio ennill hyder, " mi wnaf i fyny am
hyn oll yn y Fach. Os na fedraf siarad,
medraf ysgrit'ennu." Hiraethwn, bron, am
drannoeth, a'r arholiad. Ymddangosais yn Ys-
gol yr Arholiadau'n brydlon ; a throwd fi allan
ar unwaith, gan nad oedd gennyf got ddu a
chadach gwyn, yn ol deddf gaeth y Brifysgol.
Cyfarwyddwyd fi i siop ddillad ar gyfer, lle y
prynnais gadach gwyn ac y llogais got ddu. Yr
oeddwn wedi colli botwm fy ngholer, ac yr oedd

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence