Skip to main content

‹‹‹ prev (105)

(107) next ›››

(106)
io6 Clych Adgof.
" Master, onid ydych yn tybio fod yn bryd
i'r Gwyddelod gael yr hyn ydynt yn ddymuno ? '
"A fuoch chwi yn yr Iwerddon eritied?"'
ebe yntau.
" Naddo," meddwn innau, gan deimlo'n
weddol sicr ei fod wedi darganfod na fum
ei'ioed o Gymru o'r blaen.
"Y mae gennych reswm da, íelly,"" meddai,
" dros ofyn eich cwestiwn yn y dull yna."
Ni theimlais fy hun erioed wedi fy llethu
mor ddidrugaredd ; tôn ei lais oedd greulon, ac
nid ei eiriau. Dechreuodd fy ngwefusau
grynnu, yr oedd Iwmp mawr yn fy ngwddf, ac
am fy llygaid,— wrth gwrs yr oeddwn yn wir-
ion iawn. Newidiodd dull Jowett mewn am-
rantiad. Collodd ei olwg ddidaro, ac yr oedd
rhywbeth fel direidi llawen yn y llais bach pan
ddywedodd, —
" Byddaf yn hoffi mynd i Gymru bob amser.
Mae bardd neu ddau ymhob pentre bach yno,
ac y mae hynny yn arwydd dda iawn am genedl.
Yr oeddwn yng Nghymru y gwyliau diweddaf,
a dywedai y westywraig fod boneddiges newydd
adael y gwesty ac wedi eu ceryddu am na siar-
adent Gymraeg. Lady Gharlotte Guest oedd
honno. Yr oedd un o'm cyfeiUion goreu, Row-
land WiUiams, yn Gymro. A Chymro yw Lord
A'berdare. Hwyrach îia fedrwn ni ddim cytuno
am V Gwyddelod, ond rhaid i chwi beidio digio
wrthyf, yr wyf yn hoff o'r Cymry erioed."
Daeth fy holl hunanoldeb yn ol ar unwaith,
a dywedais y gallwn dderbyn cerydd, fy mod
yn ceryddu rhai fy hun weithiau, a fod dihareb
Gymraeg yn dweyd na ddylai pobl sy'n cerdded
yn droednoeth hau drain. Hoffodd y Master y
ddihaieb, a dywedodd yn awchus, —

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence