Skip to main content

‹‹‹ prev (91)

(93) next ›››

(92)
92 Clych Adgof.
glywed dwndwr yr aberoedd bach yr ochr draw
i'r llyn. Ac yn sicr, dyna swn clychau filoedd
yn codi o'r llyn. Wedi sylwi a chlustfeinio,
gwelais fod y swn yn dod ar ol pob awel o wynt.
Tybed ai'r tonnau oedd yn canu'r clychau dan
gynhyrfiad yr awel ysgafn ? Toc deallais y dir-
gelwch. Yr oedd miloedd o fân dipynau o rew
wedi eu hel at eu gilydd gan y gwynt, wedi'r
meiriol diweddaf, i gwrr y llyn ; a phan ddeu-
ai'r awel ysgafnaf, curai'r tipynau yn erbyn eu
gilydd, gan wneyd swn fel mil o glychau. Nis
gwn ai clywed swn tebyg wnaeth i rywrai gych-
wyn traddodiad fod clychau dinas foddwyd i'w
clywed yn y llyn.
Wedi rhyw filldir o gerdded hyd lan y Ilyn,
yr ydym yn cyrraedd pentref Llanecil. Nid oes
yn y pentref i gyd erbyn hyn ond tri thy ac
eglwys, wedi eu hadeiladu ar wastadedd bychan
ffurfiwyd gan afonig wi-th ddiwyd gario graian
o'r mynyddoedd i'r llyn. Y mae'n sicr gennyf
nad oes yng Nghymru fynwent mewn lle pryd-
ferthach. Y mae y Ilyn yn dod at ei mur, ond
ni chlywais ei fod yn ei gynddaredd mwyaf wedi
meiddio cyffwrdd â'r pridd cysegredig. Heibio
i un cwrr rhed " Aber Gwenwynfeirch Gwydd-
no " gyda'i thraddodiadau paganaidd am Gerid-
wen ; a thraw dros y dwfr gwylia'r Aran lan-
nerch y marw a'r fro sydd o'i chwmpas. Ond
trown at y beddau. Dacw fedd Tegidon, draw
dacw fedd Dafydd Cadwalad, dyma feddau'r
Prysiaid a'u harwyddair mai hwy y pery clod
na hoedl,*' a dyma faen cof am Siarl Wyn o
Éenllyn, — y bardd ieuanc roddwyd i huno ar
lan y Mississippi. Wrth dalcen yr eglwys, y
talcen nesaf i'r Bala, dan gysgod yr eglwys a'r
yw, y mae gorffwysfan Llwydiaid Plas yn Dre.

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence