Skip to main content

‹‹‹ prev (90)

(92) next ›››

(91)
Y Bala. 91
nachwyr i'w ffeiriau, ac i gadw Iddewon draw
o'i thai to brwyn. Yr adegau hynny yr oedd
Syr Walter Manny'n hela'r ceirw hyd ael y
Wenallt draw ac hyd ffriddoedd Cwmffynnon.
Bu i'r dref faer hyd y ganrif ddiweddaf, pan
gawn hanes am ddau'n ymryson am yr an-
rhydedd, — " dau faer drwg yn difa'r dre."
Ond ynglyn a hanes crefydd Cymi'u, nid
ynglyn a hanes ei rhyfeloedd a'i masnach, y
' mae'r Bala'n enwocaf. Bu ei sasiynau yn
foddion deffroad crefyddol trwy Ogledd Cymru ;
a bu yr Ysgol Sul berffeithiwyd ynddi yn fodd-
ion deffroad meddyliol ac yn sylfaen yr hyn a
wnawd dros addysg byth er hynny.
Ond dyma ni wrth gwrr y llyn, ac un o
olygfeydd prydferthaf Cymru o'n blaenau. Ym-
estyn y llyn, a'i ddyfi'oedd gleision tawel yn
adlewyrchu'r bryniau a'r penrhynnoedd coed-
iog, am aml fìlldir at odrau'r mynyddoedd draw.
Dacw'r Aran fawreddog, — pe buaswn bagan, hi
fuaswn yn addoli, — a dacw Gader Idris yn ed-
rych dros ei hysgwydd.
"Y mae dinas dan y llyn, onid oes ? Clyw-
ais son am gloch y Bala."
Oes y mae dinas, ebe traddodiad, dan y llyn,
a chlywir swn cloch y Bala ar ambell hirnawn
haf yn dod i fyny'r trwy'r dyfroedd tawel. Mi
a glywais y clychau fy hun. Dywedodd rhyw-
un wrthyf mai bendith fyddai i'r hwn a'u clyw-
ai. Ac ar ryw ddiwrnod rhew yng nghanol y
gaeaf, ar ddydd pen fy mlwydd, clywn swn mil
o glyohau aur ac arian. Yr oeddwn yn dod ar
hyd y ffordd sydd o'n blaenau'n awr, a thybiais
mai dychymyg oedd. Sefais a gwrandewais.
Yr oedd pob peth mor ddistaw feJ y gallwn

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence