Skip to main content

‹‹‹ prev (208)

(210) next ›››

(209)
[II. 2c-3c NODIADAU 113
llywljf. Ceid pres. laf. un. yn -if (gw. I, 4a), a hefyd
ferfenw. Rhoes yr olaf -i mewn cyfnod diweddarach.
Felly "llywiaf", neu "llywio". Os yr olaf, "Ilawenydd
byddin yw Ilywio", a'r unig ystyr a welaf i hynny yw bod
byddin yn Ilawen o'i Ilywio yn ddoeth. Ar llywio gw.
H. MSS. ii, 315, ef a ossodes seithwyr y lywyaw y ddinas,
cf. isod 8b, 9b. Os y llall, "Llywiaf lu Llewenydd", a
deall Llewenydd fel enw Ilwyth neu fro, cf. Mont. Coll. iv,
297, breinlen Gwenwynwyn i Ystrad Marchell yn 1201,
"Dyfi et inde usque ad Aber Llywenith et sic per Llywenith
usque ad ejus ortum", sef hen enw Abeillefenni . Cyfeiriwyd
yn barod at afon o'r enw Llawen (I, 14a), a cheir enwau
llwythau neu ardaloedd yn -ydd, megis Eifionydd, Meirion-
nydd, Maelenydd.
Ond gan fod sôn am Lwyfenydd ynglŷn ag Urien, mewn
amrjrw fannau yn Llyfr Taliesin (gw. B.T. 61 , 14, llwyuenyd ;
63, 9, mal ton teithiawc llwyfenyd . . . yw vryen : 59, 1 ;
65, 13, Vryen nym gomed. Lloyfenyd tired ys meu eu
reufed), diogelach yw deall llewenid y testun fel bai am
hwnnw, oni ddaw Ile arall i'r golwg, a fo'n ateb yn well.
Nid oes draíîerth i ddeall cystrawen Ll. lluyd (gyda'r
dibynnair yn gyntaf), cyffredin ydoedd mewn Cymraeg
cynnar ; gw. isod XI, Ib, 81b.
3b drws llech. Enw rhyw fwlch yn y mynyddoedd Ile bu
brwydro ? Ar llech gw. P.K.M. 303 ; drws, cf. Drws y
Coed, y bwlch rhwng Rhyd Ddu a Nantlle : Drws y Nant,
ger Dolgellau : Bwlch Oerddrws, rhwng Dolgellau a
Mallwyd ; (Llywelyn ap Gruffudd), M.A. 240a. Nyt oet
hawt y dreissyaw ger drws deuvynyt ; E. Ll. 24.
3c ny tech, ni thech, h.y. ni ffy, ni chilia'n ôl ; gw. I, 9c,
B.A. 1, 13, mal brwyn gomynei gwyr nyt echei : 5, 6, arth
en Ilwrw byth hwyr e techei ; 33, 20, ny phorthassan warth
wyr ny thechyn. Hen orgraíî yw'r t yn ddidreigl ar ôl ny.
Dunawt uab Pabo : cf. isod 37a, 38a, V, 5a ; Sk. F.A.B.
ii. 454. Dunawt a Cherwyd a Sawyl Penuchel meibyon
Pabo Post Prydein, mab Arthwys mab Mar mab Keneu
mab Coel. Gorhendaid Llywarch Hên hefyd ydoedd Cenau
fab Coel, ac felly perthyn Dunawd ac yntau i'r un genhed-
laeth. Yn R.M. 301, yn y Trioedd, d^rwedir fod Dunawd

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence