Skip to main content

‹‹‹ prev (81)

(83) next ›››

(82)
lxxviii RHAGYMADRODD
-d am -t: I, 2c trigwyd ; III, 28a, 29a hyd ;
XI, 87b pereid.
-t am d am íÍí^ : III, 32b hedit.
-w am /: I. 40b, dewawt; IV, 7a Mewyrn.
Gan fod rhan o'r canu ar gael yn y Llyfr Du, nid yw'r
rhain ond ategu'r farn y daethid iddi hebddynt, o bosibl.
Ond y mae ychydig o enghreifftiau o orgraff hŷn nag
un y Llyfr Du. Yn y Computus (c. 920) ceir e unwaith
[diconetent) ac -ei- amryw weithiau am -ei- Cymraeg
Canol, megis cimeir, cyfeir ; ceis. Yn y Juvencus (c. 850)
ceir per peir; couer cywair ; guoled goleith, sy'n dangos
e am ei ; a hefyd coueidid cyweithydd ; cein ; Meir ;
sef arfer ei am ei. Pan ddeuai ysgrifenwyr y ddeuddeg-
fed gahrif ar draws enghreifftiau fel y rhai cyntaf,
arferent eu troi i'w horgraff eu hunain, sef -ei-, heb
betruso nac ystyried. Yn hen destun y canu hwn rhaid
fod celen am 'celyn'; ond trowyd ef yn celein (!) ddwy-
waith yn ein copîau ni (gw. ar XI, 69b, 112a), arwydd
fod y copîwyr yn gynefin â throi e yn ei mewn geiriau
eraill ynddo, cf. XI, 40b atles am atleis, un ai damwain
hollol, neu anghofio diweddaru ?
Mewn Hen Gymraeg, fel y dengys y glosau, safai / am
/ ac //. Ceir rhai enghreifítiau yma hefyd o / = //, gw. ar
III, 46c, Louan Law Difro ; hefyd ar I, 23b ; II, 5b.
Nodwedd arall mewn hen orgraff oedd -gu- am -w-,
megis aguen yn Nennius (c. 800) am awen ; dengys hyn
pam y methodd y Llyfr Coch yn I, 2c, lle rhoes awen am
"A Wên !" ac yn II, 6b, ewyn am e gẃyn.
Sicrach profion o hen orgraff na'r rhain 5^ dau enw
personol yn y Canu. Ar y cyntaf, Elgno (yn lle Elno^),
gw. ar III, 42a. Dieithr oedd yr enw, neu ni buasai'r
1 L.D. ii, 16, Gohelith Dogveiling ; Elvo ab Dogvael (bai am
Elno). Cf. Jes. 20, Cy. viii, 90, Elno m. Docuael m. Cuneda
wledic.
I

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence