Skip to main content

‹‹‹ prev (80)

(82) next ›››

(81)
§16. YR lAITH lxxvii
Rhyw fíroenochi y mae leuan, ond eto dywed galon y
gwir. Y mae yn y canu syml hwn lawer o eiriau anodd
iawn eu deall, cytunaf yn rhwydd. Ond y mae'r anaws-
terau hyn, pa mor ddiflas bynnag ar y pryd, yn bwysig
i ategu hynafiaeth y cyfarwyddyd gwreiddiol. Weithiau,
fodd bynnag, nid ydynt ond cibddellni golygydd a
chopîwr ! Methais a deall XI, 39b, am Eryr EU ar faes
y gwaed, gw. td. 211 :
Ryuore kinyawa.
A methodd eraill o'm blaen ! Ond ddoe damweiniais ar
yr esboniad. Mewn hen lawysgrifau fel y Llyfr Du,^
a hefyd yn y darn hynaf o Gymraeg y gwn amdano, sef
yr ail nodyn yn Llyfr St. Chad., L.L. xliii, ceir R yn aml
yn lle r ; y mae R yn debyg iawn i k, a chymysgid hwynt
(cf. isod, td. 62, rac kat; 171 , Rerygyl, Rerygyl) . Wrthddar-
llen Ry-uore 'rhy fore', ceir ystyr addas i'r cysylltiadau
a grym arswydus yn yr englyn. Gwleddai'r Eryr yn
rhy fore ! Yn lle hen air anodd, cyfore, dyma ddau air
diweddar (a hen), y gwrthwyneb i ry-hwyr. Ac eto, er
nad oes hen air prin yma, y mae beiau'r copîwyr yn
tarddu o fethu a deall llawysgrif wedi ei hysgrifennu
mewn hen ddull. Ac nid hon yw'r unig enghraifft.
Yn y Nodiadau drwodd tynnais sylw at olion yn
nhestun y Llyfr Coch o orgrafí hŷn, a brofai ond odid fod
gwreiddiol unwaith yn orgraff y Llyfr Du, e.e.:
e am y ; I Ib llem ; 14a welas ; 39a Lloeger.
i am y : I 48a kyni ; [III, 2c llewenid], III, 46c
wisc ; VI, 14c gwiiv ; XI, 45c, Argoetwis
(ondcf. PT).
n am u am w : VI, 24b bydant.
iB.B.C. 3, 1, 3, 5, 6, 7, 8, etc.

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence