Skip to main content

‹‹‹ prev (67)

(69) next ›››

(68)
lxiv RHAGYMADRODD
Pennill rhydd hefyd yw 66 ; Heledd yn dwyn ei hun
fuwch i'r mynydd uchel am ddiogelwch. Amdani nid
oes ond rhuwch neu groenwisg ; aeth yr unbennes falch
yn fugeiles lom. Dygwyd y ddau eithaf a'u gosod ochr
yn ochr.
Problem i mi yw 67 a 68, canu i afonydd fíorchog
(gw. td. 223). Methaf a gweld mai yma yw eu lle, canys
torrant ar rediad yr ungan. Yn 69-72 clywir Heledd
yn dal ymlaen i gyferbynnu ei bywyd fel bugeiles a thy-
wysoges, cf . Ll^rwarch Hen pan oedd yn fugail lloi.
Yna daw dernyn o fawl i ŵr o'r enw Gorwynion o fro
Edeirnion, 73-5 ; yn ôl rhai mab ydoedd i Lywarch Hen,
efallai hynny, neu efallai mai taro ar ei enw yma ac isod
yn 80, a barodd i rywun dybio hynny, gan dybio hefyd
mai Llywarch biau'r canu hwn. Pwy bynnag ydoedd,
ar ei fedd ef, medd englyn 80, y saif Heledd i edrych yn
hiraethus ar ei hen fro ; ac yn 81 enwir mewn englyn sy'n
gwplws iddo Dinlleu Vreconn. Os o Edeirnion y daeth,
fe'i claddwyd ger Hafren.
Yna daw dau englyn rhydd i ddau le oedd wedi eu
diffeithio ; y cyntaf yw Gyrthmwl, a'r ail (77) yw Ercal,
a fu unwaith yn fro i deulu Morial, ac yn fagwrfa iddynt,
ond bellach sydd yn brysur yn troi eu cyrfí yn llwch.
Yn 78 clywir llais Heledd eto, a llais arall yn 79 yn ei
hateb. Pwy, nis gwn. Dyma'r tro cyntaf i beth tebyg
i ymddiddan ymrithio o'r canu. Ungan gan Heledd
yw'r cwbl hyd yma. Ar ôl hyn daw'r englynion ar fedd
Gorwynion, ac o Ddinlleu Wrygon (?), neu'r Wrekin.
Os cysylltwn yr englynion uchod i Ffreuer yn ei bedd (?)
â gwaith Heledd yn sefyll yma eto ar fedd, ac yn cyfarch
Gyrthmwl ac Ercal, nad ynt bellach ond mynwentydd,
gwehr ond odid beth yw ail ran y ddrama ; ar ôl claddu
Cynddylan a'i brodyr aeth Heledd yn orffwyllog, neu i
arfer yr hen air am fam Culhwch, "ygwylltawc heb
dygredu anhed". Crwydrai o fedd i fedd, o fryn i fryn,

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence