Skip to main content

‹‹‹ prev (66)

(68) next ›››

(67)
§11. CANUHELEDD bciii
a'i grafanc yn ddyrchafedig amdano. Dyma'r lle i
Heledd ganu 34-44. O arswyd i arswyd, o ofn i ofn,
deuir o hyd i'r pennaeth marw. Wedyn rhaid tybio ei
gludo i Eglwyseu Bassa, a chael y rheini wedi eu difa,
yn farwor, yn lludw. Eto gwell bedd yn y fynwent
honno nag ar y maes ; dyna yw 45-51. Yn y gadwyn
nesaf, 52-6, cyferchir y Dref Wen, sydd bellach yn
anial, a'i gwerin wedi eu lladd.
Fel y gwelir, y mae'r cadwyni hirion hyn yn cydio yn
ei gilydd yn bur rhwydd, ac ychydig iawn o ryddiaith
sy'n angenrheidiol i'w cysylltu. Credaf mai un cyfar-
wyddyd oedd y cyfan hyd yma. Ond o hyn ymlaen,
nid yw cyn hawsed darganfod na dyfeisio cefndir addas.
Efallai i'r un peth ddigwydd ag yn Rhif I, sef Marw-
chwedl Gwên yn tynnu ati Farwchwedl Pyll, ac wedyn
dernynnau o chwedlau yn ymgynnull ac yn asio yn
honno. Felly yma, copi da o Ganu Cynddylan yn denu
ato ddarnau eraill o ganu o amryw chwedlau am Heledd
a'i hanfíodion.
Yn gyntaf oll daw canu i Ffreuer, chwaer Heledd,
57-65. Y mae hwn yn weddol gyflawn, a cheir Cymeriad
rhwng dau englyn, wedyn pedwar, wedyn dau, ac yna
un yn rhydd, er bod enw Ffreuer ynddo. Eglur yw fod
Ffreuer wedi marw, a chyferchir y marw gan Heledd, un
ai yn y tŷ neu yn y bedd. Gwyn ei byd hi, Ffreuer,
heno mor dawel yw, a'i brodyr wedi eu lladd ! Nid ei
marw hi sy'n peri i Heledd wylo drwy'r nos, ac wylo yn
y plygain wedyn. Cwyno y mae hi ar ôl ei brodyr a
cholU ei gwlad. Yna daw'r pennill rhydd (65), sy'n rhoi
un o anhepgorion y ddrama, canys datguddia falchder
ysbryd yr unbennes ddifraw gynt, pan oedd ei brodyr
yn íyw.
Mi a Ffreuer a Medlan.
Kyt ytuo cat ym pob mann,
Ny'n tawr : ny ladawr an rann.

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence