Skip to main content

‹‹‹ prev (46)

(48) next ›››

(47)
§6. LLINELLAU LLANW xliii
Nid oes achos petruso parthed eu natur.^ Yn ôl y
patrwmawelir yn Trystan ac Esyilt a'r Mahinogi, dygant
nodau eu dosbarth. Englynion cyfarch yw rhai, eng-
lynion ymddiddan yw eraill, ond bod y prif lefarwr
weithiau yn mynnu'r llwyfan iddo'i hun, ac yn tueddu i
ymson a chwyno ar ei dynged.
Yn eu canol (B.B.C. 89-93) daw Rhif VII isod (td.
27-9), canu Mechydd ap Llywarch Hen. Cymharer hwn
â'r lleill, a gwehr beth yw. Fel cefndir iddo rhaid bod
unwaith gyfarwyddyd hir, Cyfranc Mechydd â Mwng
Mawr Drefydd, neu'n fyrrach, Marwchwedl Mechydd.
Collwyd y rhyddiaith, cadwyd yr englynion. Bwrier
golwg dros y gweddill o'r caniadau a alwaf yn Gylch
Llywarch a Chylch Heledd, a gwelir mai yma yw eu lle
hwythau. Nid ydynt namyn y canu mewn cyfarwydd-
ydau coll.
Bydd yn hwylus trafod yn awr rai o nodweddion
cyffredin y math hwn o ganu dramatig.
§6. LLINELLAU LLANW
Mewn ymson ceir un Uefarwr yn datgan ei deimladau,
heb neb yn ateb. Math o un-gan yw, a'r ungeiniad â'i
fryd ar ei broíìad ei hun. Pan fo gofyn ac ateb, fel rheol
rhoir pennill cyfan i'r naill a'r Uall. Eithriad yw dechrau
^ R.C. xxxiv, 387-8, barn yr Athro J. Loth. Gweler hefyd
lyfr anhepgor H. M. ac N. K. Chadwick, The Ancient Literatures,
td. 34-5, a'r drafodaeth gyffredinol ynddo ar yr holl ddosbarth ;
ymdriniaeth deg a thra gwerthfawr. Nid wyf yn medru cydweld
â phob dim a ddywedir ganddynt am ganu Llywarch, ond y
mae'r dull cymharol o astudio Uên gynnar a ddilynant h\vy
eisoes wedi tafiu goleuni llachar ar faes oedd yn dywyll iawn
gynt, ac y mae eu gwaith yn addewid am fwy.

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence