Skip to main content

‹‹‹ prev (45)

(47) next ›››

(46)
xlii RHAGYMADRODD
(neu'r chwedl hir) adroddai sut y bu i Arthur orfod
ymostwng cyn ised ag erfyn am ei dderbyn i dŷ lle'r oedd
Glewlwyd yn borthawr. Erbyn Culhwch ac Olwen y
mae Glewlwyd yn borthawr i Arthur ei hun. Stori goll
eto.
Eto B.B.C. 97 : englynion ymddiddan o chwedl lle
ceir coegflwg (dyn ag un Uygad) braidd yn hy yn ymyl
llys Gwallawg ab Lleinawg, ond fel yr â'r ymddiddan
ymlaen, gwehr fod rhyw ẃydd wedi tynnu llj'gad
Gwallawg ei hun, a melltithir hi dan bob Ihw a all fod ar
ẃydd ! Stori ddigri yn sicr, petasem yn ei gwybod.
Wedyn daw ymddiddan rhwng Gwyddneu Garanhir
a Gwynn ab Nudd (97-100); darn am Drystan, Kyheig,
a rhyw gorr (100-1); ymddiddan rhwng Ygnach a
Thahesin ar ei fíordd o Gaer Seon i Gaer Leu a Gwydion
(101-2); englynion cyfarch Seithennin adeg boddi Maes
Gwyddneu (106-7); ac yn olaf Enwev meibon llywarch
hen mewn cymysgfa annisgriíìadwy (isod Rhif VIII,
td. 30).
Beth yw hyn oll ond tynnu dẁr o'n dannedd ni, rhoi
cipolwg ar stôr o gyfarwyddj^d blasus, a'i guddio wedyn ?
Cybydd memrwn, neu dlawd o femrwn oedd y copîwr.
Anodd credu iddo roi'r cwbl a gafodd ef ei hun ! Tecach,
efallai, yw barnu iddo gasglu o lawysgrifau cyfarwyddyd
oedd yn ei gyrraedd yr hen englynion a gynhwysent, er
mwyn diogelu'r rheini yn ei drysorfa farddonol ef.
Llyfr Cerdd oedd ei lawysgrif i fod, nid llyfr Chwedl.
Sylwer fod y cyfresi englynion hyn oll i'w cael mewn un
adran o'r Llyfr Du presennol (td. 81-108), a bod y ddalen
o'i blaen, seí td. 80, unwaith wedi bod yn ddalen allanol
llawysgrif. A rwymwyd llyfr Englynion wrth gasgliad
arall ? Y mae'n dechrau gyda chlamp o lythyren fawr
addurnedig fel a geir ar ddechrau Uawysgrif . Boed a
fynno am hynny, y mae'r adran hon, neu'r llawysgrif
hon, yn gyforiog o englynion hen gyfarwyddydau.

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence