Skip to main content

‹‹‹ prev (20)

(22) next ›››

(21)
§2. TEULU LLYWARCH YN YR ACHAU xvii
Yn Peniarth 45, llawysgrif o ddiwedd y drydedd ganrif
ar ddeg/ ceir nifer o achau a elwir Bonedd Gwŷr y
Gogledd} Yr enw cyntaf yw :
Uryen uab Kynuarch mab Meirchawn mab
Gorust Letlwm mab Keneu mab Coel.
Yrail:"
Llywarch Hen m. Elidyr Lydanwyn m. Meirch-
awn m. Gorust Ledlwm m. Keneu m. Coel.
Diwedd ach Clydno, rhif 3, a Dunawt m. Pabo, rhif 4 :
Arthwys m. Mar m. Keneu m. CoeL
Y pumed :
Gwrgi a Pheredur meibon Ehfíer Gosgorduawr
m. Arthwys [m. Mar] m. Keneu m. Coel.
Y chweched :
Gwendoleu a Nud a Chof meibyon Keidyaw m.
Arthwys m. Mar m. Keneu m. Coel.
Yr oedd Urien, yn ôl hyn, yn gefnder Llywarch Hen, a
rhoddir y ddau yn y bumed genhedlaeth o GoeL Petasai'r
bumed ach yn gyflawn, buasai'n rhaid dal fod Gwrgi a
Pheredur jm y bedwaredd genhedlaeth o Goel, ond wrth
gymharu rhifau 3, 4, 6, gwelir fod un enw wedi colli o'r
gadwyn yn rhif 5, sef Mar mab Cenau, ac wrth adfer
hwnnw i'w le, gwneir Gwrgi a'i frawd yn gyíoeswyr â
Lljrwarch ac Urièri.
Mewn llawysgrif Ladin o tua 1100 sydd yn yr Amgu-
eddfa Brydeinig, sef Harl. 3859, ceir copi o'r Historia
Brittonum a olygwyd gan Nennius ; yna daw'r cronicl
a elwir Annales Camhriae, a dilynir hwnnw drachefn gan
nifer o Achau cynnar i egluro'r Historia a'r Annales.
Y cofnod olaf yn y cronicl y^v un am 954, a bemir mai
tua'r un adeg y casglwyd yr Achau ; ond nid yw'n waith
hawdd amseru'r Historia, na hyd yn oed grynhoi i fyr
1 R.W.M. i, 379.
* Skene, F.A.B. ii, 454; gwell copi gan Wade-Evans, Arch.
Camb. 1930. 339.

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence