Skip to main content

‹‹‹ prev (19)

(21) next ›››

(20)
xvi RHAGYMADRODD
fod yn gynharach na diwedd y ddeuddegfed ganrif.
Ynddi, td. 89-93, ceir cân sy'n dechrau fel canu natur a
dihareb, ond cyn bo hir yn troi'n ymddiddan eglur. Un
o'r Uefarwyr yw PeHs, a haera ei feithrin gan Owain
Rheged. Diweddir gyda chyfeiriad at farw Mechydd
fab Lljrwarch, gw. isod Rhif VII, td. 27. Y mesur yw
englynion o'r hen ddull, a pherthynant o ran ysbryd a
chelfyddyd i'r un cylch â'r rhai a brintiais o'r Llyfr Coch,
ond bod eu horgrafí yn hŷn.
Yn Rhan III, td. 97-108, ar y ddalen olaf oll, ceir
dwsin o englynion dan y teitl Enwev nieihon Uywarch hen.
Ceir pedwar ohonynt yn y gân a nodais ei digwydd yn
Rhan II, a dau yn y gân gyntaf a brintiais o'r Llyfr
Coch.
Dyma dystiolaeth go bendant fod Englynion Llywarch
yn hysbys yn niwedd y ddeuddegfed ganrif, canys wele
amryw ohonynt ar gael yn y llawysgrif Gymraeg hynaf
oll. Ni fedr oed llawysgrifau ein cynorthwyo i fynd
ymhellach yn ôl na hyn : aethant â thestun rhan o'r
canu i ddechrau cyfnod y llawysgrifau Cymraeg. Os
oes galw am ei gludo'n ôl i gyfnod cynharach fyth, rhaid
chwiHo am gymorth yn orgraff, iaith, a chelfyddyd y
canu ei hun, yn y testunau hynaf sydd wedi goroesi i'n
hamser ni. Methodd Wright wrth dybio mai oed y
Ll. Coch, sef y llawysgrif hynaf a gynhwysai'r canu, hyd
y gwyddai ef, oedd adeg ei gyfansoddi. Gallem ninnau
fethu yn gyffelyb, ped ymfodlonem ar oed Llyfr Du
Caerfyrddin fel prawf terfynol o amseriad llunio eng-
lynion dihafal Llywarch Hen a Heledd.
§2. TEULU LLYWARCH YN YR ACHAU A
NENNIUS
Ymddengys un peth yn sicr, sef na all y canu fod yn
gynharach beth bynnag nag oes Llywarch Hen ei hun !
Pa ddefnydd sydd i benderfynu ei gyfnod ef ?

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence