Skip to main content

‹‹‹ prev (13)

(15) next ›››

(14)
X RHAGYMADRODD
Myyyrian Archaiology (M.A.^ 83-103), ond heb gyf-
ieithiad ; ac yn Four Ancient Books of Wales Skene
(1868), rhoes Silvan Evans destunau'r Llyfr Du a'r Llyfr
Coch gyda chyfieithiad. I'r awduron hyn, ac eraill o'u
blaen ac ar eu h.ò\} nid oedd fawr amheuaeth am gyfnod
y bardd nac am ddilysrwydd a gwerth hanesyddol ei
ganiadau. Tywysog o'r Gogledd ydoedd, medd Pughe ;
ganed ef tua dechrau'r chweched ganrif, a bu fyw hyd
ganol y seithfed, pryd y bu farw yn yr oedran tra theg o
gant a hanner mlwydd oed. Ei sail dros hyn yw
perthynas Llywarch ag Arthur, a laddwyd (meddai) yn
542, a'i englynion i Gadwallon, a laddwyd tua 646.
Dyfynna'r Trioedd i brofi fod Llywarch unwaith yn un
o dri thrwyddedog llys Arthur (R.M. 306); ategir hyn
trwy briodoli iddo hefyd yr englynion i un o filwyr
Arthur, Geraint ab Erbin, a geir yn y Llyfr Coch a'r
Llyfr Du. Tystia englynion eraill ddarfod i Lywarch
wylo ar ôl Urien Rheged a'i feibion, ac wedi colh'r
noddwyr hyn, tybir iddo ffoi o'r Gogledd i Gymru, a
chael noddfa ym Mhowys dan gysgod Cynddylan ap
Cyndrwyn, nes i hwnnw hefyd gwympo mewn rhyfel.
Encihon olaf y bardd oedd Aber Cuawg, ger Machyn-
Uaith, a Llanfor, ger y Bala, ac yn y lle olaf, medd tra-
ddodiad, y bu farw ac y claddwyd ef, yn hen ŵr unig
wedi goroesi ei noddwyr, ei gyfeiUion, a'i blant. Truan
o dynged ! Wrth dderbyn yr englynion oll fel gwaith
dilys Llywarch, ac fel canu cyfamserol â'r digwyddiadau,
cafwyd digon o ddefnydd i lunio'r fuchedd ddiddorol
uchod i'r bardd, a llwyr gyfiawnhau yr Hen ar ôl ei enw.
O graffu ar eu hiaith a'u cynnwys, ni fedrir, fodd bynnag,
eu priodoH i Lywarch nac i oes Llywarch.
1 Evan Evans, Specimens,^ 62-3 ; Lhwyd, Arch. Brit. 259-61,
dyíyniadau o'r canu, enwau personau a lleoedd, a nodion.
Printiodd J. D. Rhys amryw englynion yn ei Ramadeg (1592)
td. 178-84.

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence