Skip to main content

‹‹‹ prev (12)

(14) next ›››

(13)
RHAGYMADRODD
Yn 1792 cyhoeddodd William Owen (Pughe) The Heroic
Elegies and Other Pieces of Llywarch Hen, Prince of the
Cumbrian Britons, ac yn ei ragair dywed iddo daro ar
ddethohad o waith y bardd gan Richard Thomas, B.A.,
Coleg yr lesu, Rhydychen/ sef wyth o'r cerddau hanes,
gyda chyfieithiad i'r Saesneg o'r pump byrraf a rhannau
o'r tair hwyaf. Gan fod y cyfieithiad rhannol hwn yn
rhy íìodeuog ganddo, penderfynodd Pughe drosi'r cyfan
oU o ganu Llywarch mor llythrennol ag y medrai, ond
am hanes y bardd ymfodlonodd gan mwyaf ar yr am-
Hnelhad a roesai Thomas. Newidiodd orgrafí y llaw-
ysgrifau i'w orgraff ei hun. Ar waelod y ddalen dyry
ddarlleniadau amryudol mewn modd penagored iawn
{Un llyfyr ; Ll. arall ; Neu), a dyfynna o ryw Lyfr Du
a Llyfr Coch ddarlleniadau nas ceir yn Llyfr Du Caer-
fyrddin nac yn Llyfr Coch Hergest.
Yn ddiweddarach (1801-7) cyhoeddwyd unwaith eto
holl waith tybiedig Llywarch gan Pughe ac eraill yn y
^ Gw. WiUiams, Eminent Welshmen, 487, am ei waith fel
hynafiaethydd ac achwr. Bu farw 1780. Hefyd, gw. Pen. 201,
R.W.M. i, 1027, ac yn arbennig B.M. 56, Addl. 14,884, td. 117,
lle ceir "Richardus Thomas, A.B. Coll. Jesu apud Oxoniên
Scholaris 1777. Some Account of the Life of Llywarch Hen,
the Brit. Bard". Ar ôl y fuchedd daw'r canu a'r cyfieithiad,
gyda nodiadau ar rai pwyntiau yma ac acw. Yr englyn olaf yw
XI, 40, ac ar yr ymyl ceir "Rd. Morris Junior Script. a.d. 1778".
Dyry Panton 30, R.W.M. ii, 839, "Translations of Llywarch
Hen's Songs, with notes thereon" : llofnodwyd gan rjrw R.D.
ond newidiwyd hyn, medd Dr. Evans, i R.T.

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence