Skip to main content

‹‹‹ prev (29)

(31) next ›››

(30)
xxvi RHAGYMADRODD
Heblaw Bonedd Gwŷr y Gogledd (B.G.G.), ceir hefyd
mewn amryw lawysgrifau Fonedd y Saint (B.S.)^. Yn
Pen. 16, llawysgrif o ddechrau'r drydedd ganrif ar ddeg,
ceir ach Cyndeyrn Sant, sefydlydd Llanelwy a Glasgow :
Ryndeyrn garthwys m. ewein m vryen. A denw
verch llu lewdwn lluyd o dinas eidyn yny gogled
y vam.
Felly Pen. 45, llawysgrif o ddiwedd yr un ganrif , lle gelwir
ei fam "Denyw uerch lewdwn luydawc," neu Leuddun
Luyddawg. Dinas Eidyn yw Dunedin neu Edinburgh,
a gelwid yr ardal gynt yn Lleuddiniawn (gw. H. 21,
M.A. 144a), oddi wrth y Lleuddin hwn (cf. Lothian).
Ym muchedd Cyndeyrn (gw. L.B.S. ii, 231) gelwir ei fam
Theneu, merch Leudonus, brenin Leudonia ; a'i dad yn
Ewen mab Erwegende (in gestis historiarum Yocatur Ewen
filius regis Ulien), neu Eugenio Eufiirenn rege Cumhriae,
yn ôl Brev. Aberdeen. Dengys y ffurfiau y drafíerth a
gafodd y cofianwyr gydag enw Urbgen, Urien. Am-
serir un o'r bucheddau rhwng 1 147 a 1 164, a'r llall yn
1180. L.B.S. ii, 231.
Amheus yw Wade-Evans (W.Ch.O. 193) o gysylltiad
Cyndeyrn â Llanelwy. Yn yr achau a luniodd, td. 194,
dilynodd Harl. 3859 a rhoi Pabo, taid Asa neu Asaph, yn
fab Cenau ap Coel, wedyn deil fod Asa yn hŷn o dair
cenhedlaeth na'i athro tybiedig Cyndeyrn. Yn ôl
B.G.G., fodd bynnag, mab oedd Pabo i Arthwys m. Mar.
m. Cenau, h.y. coUwyd dwy genhedlaeth yn ach Harl.
3859. Wrth adfer y rheini, llenwir llawer o'r bwlch a
flinodd Mr. Wade-Evans. Bu Cyndeyrn farw yn 603
^ Testunau da yn L.B.S. iv, 369-73, a chan Wade-Evans yn
y Rev. Celt.; cf. Hafod lö (tua 1400) Kyndeyrn m. garthwys m.
owein m. vryen a denw verch levdvn lwydavc o dinas eidin yn
y gogled y vam.

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence