Skip to main content

‹‹‹ prev (28)

(30) next ›››

(29)
§2. TEULU LLYWARCH YN YR ACHAU xxv
i genhedlaeth, ceir Ceritic 450 ; Dumngual Hen 510 ;
yna i lawr Ach V deuir at Beli 690, Teudebur 720,
Dumnagual 750. Troer yn awr i'r Annales, ac yno
gwelir fod yr amcan-gyfrif yn weddol agos i iawn, ac eto
mai íîôl fuasai dibynnu gormod ar ffìgurau a gafwyd ar
amcan o'r fath, canys o dan 750 rhoir marwolaeth
tetídubr filius beli, ac o dan 760, dimmgtMl filii tetidubr
moritur, h.y. deng mlynedd ac nid deng mlynedd ar
hugain oedd rhwng marw Tewddwfr a marw Dyfnwal ei
fab. Bras amcan yn unig a geir drwy'r dull hwn o
amseru unigohon mewn achau, ac ni honnir dim arall.
A derbyn 510 fel amcan am flodau dyddiau Dyfnwal
Hen, dyry hynny Rydderch, ei orŵyr, yn 600. Gwedda
hyn yn burion i fuddugwr Arfderydd (573-5), gorchfygwr
Gwenddoleu (cefnder Gwrgi a Pheredur), a gelyn Hussa
(585-92).
Ond y mae ateg nodedig o werthfawr i hyn mewn Ilên
estron, sef ym Muchedd Columba (521-97) gan Abad
lona, Adamnan (624-704). Ysgrifennwyd y fuchedd
cyn 700, ac y mae ar gael mewn copi a ysgrifennwyd yn
fuan ar ôl 700. Ynddi dywedir fod y sant Gwyddehg yn
gyfeillgar â Rhydderch mab "Tothail" (fíurf Wyddeleg
Tudwal), brenin Alclud (neu Dumbarton ger Glasgow),
ac iddo ei gysuro trwy brofíwydo na thraddodid ef i
ddwylo ei elynion ond y cai farw yn ei dŷ ei hun ar wely
plu. Ac felly y bu, medd Adamnan. O ffynhonnell
WyddeHg, ac ar awdurdod sydd bron yn gyfamserol,
dyma dystiolaeth fod brenin o'r enw Rhydderch mab
Tudwal yn Alclud yn ail hanner y chweched ganrif ;
amser, lle, ac enw'r tad i gyd yn cyd-daro â'r traddodiad
Cymreig. A chan fod y traddodiad hwnnw am amser
Rhydderch yn gywir brofedig, haws credu mai dilys
hefyd yw ei dystiolaeth i Urien a'r Ueill o wŷr y Gogledd
yn y chweched ganrif.

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence