Skip to main content

‹‹‹ prev (342)

(344) next ›››

(343)
ENOC HUWS. 339
Eglur ydoedd i Enoc ei fod yn ẃr oedd wedi gweled cryn lawer
o'r byd, a dysgai rywbeth ganddo bob tro y siaradai ag ef.
Ond prif destyn eu hymddyddan bob amser a fyddai yr America,
a chyda pha bwnc bynag y dechreuent, gofalai yr hen fonedd-
wr am ddiweddu gyda " gwlad fawr y Oorllewin." Yr oedd
efe wedi siarad cymaint am y wlad. ac mor ganmoliaethol, nes
oedd Enoc yn mron anesmwytho am fyn'd yno, ac oni bae am
ryw amgylchiadau gwybyddus iddo ef ei hun, diau mai nen-
derfynu myn'd i'r America a wneuthai. Yn gynar fore'r
diwrnod y buasai yr hen foneddwr yn taiu ymweliad à Chapten
Trefor, yr oedd efe wedi amlygu dymuniad i gael awr o
ymddyddan âg Enoc ar bwnc o fusnes wedi iddo gau y siop.
Ystyriai Enoc hyn yn gryn anrhydedd, a gwahoddodd y gŵr
dyeithr i swper y noson hono, a derbyniodd yntau y gwahodd-
iad yn ddiolchgar. Yn ol gorchymyn Encc parolôdd Miss
Bifan, ei houselceeper, swper nad oedd eisiau ei well. oblegid yr
oedd hi yn eneth fedrus, ac yn cael ei mawrhau gan Enoc. Eel
yr adroddwyd, aeth yr hen foneddwr yn syth o Dy'nyrardd i
Siop y Groes. ac yn ystod y swper ymgomiai Enoc ac yntau am
y peth yma a'r peth arall, yn ddifyr ddigon. Wedi gorphen y
swper, ac i'r ddau danio ei sigàrs, ebe'r boneddwr— a dyma'r
gair cyntaf o Gymraeg a gly wsai Enoc ganddo, ac agorodd ei
lygaid mewn syndod pan ddeallodd mai Cymro ydoedd— ebe'r
gẃr—
" Mi ddwedais wrthych bore heddyw, Mr. Huws, fod genyf
eisiau siarad gair â chwi yn gyfrinachol. Cymro ydwyf, lel y
gwelwch, ac wrth ystyried leied o Gymraeg ydwyf wedi ei
glywed er's cymfer o flynyddoedd, yr wyf yn credu y dywedwch
nad ydwyf wedi Dic Shona rhyw lawer. Gadewais Gymru
flynyddau lawer yn ol — er's mwy o flynyddau nag a ellwc'n
chwi gofio. Gyrwyd fi o'r wlad hon gan amgylchiadau profed-
igaethus. Nid oeddwn yn dlawd— wel, yn wir, yr wyf yn
meddwl yr ystyrid fi dipyn yn gefnog. Yr oeddwn, cyn myn'd
i íTwrdd, wedi claddu fy rhieni, a'm hunig frawd a'm dwy
chwaer. Yr oeddwn yn briod er's llawer o flynyddoedd, ac yr
oedd genyf un ferch, ac yr wyf yn credu y gallaf ddweyd nad
oedd yn y gymydogaeth eneth brydferthach na mwy rhinweddol
^yn y fan hon lleithiodd llygaid yr hen \sv a daeth rhywbeth
i'w wddf fel nad allai fyn'd yn mlaen am funyd. Yn y man
ychwanegodd). Esgusodwch fi, Mr. Huws, mae yr amser yn

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence