Skip to main content

‹‹‹ prev (324)

(326) next ›››

(325)
ENOC HUWS. 32;
blaen," ebe'r Capten— " Duw a'ch bendithio i'ch dau. Und,
inewn ffordd o siarad, mi welais yr amser, do, mi welais yr
amser, y buasai yn o arw genyf i neb— gan nad pwy a fuasai
— gael addewid gan ferch— unig ferch— Capten Trefor, heb yn
gyntaf vmliw^ ac ymliw drachefn, à'i thad. Ond nid Capten
Trefor ydyw Capten Trefor erbyn hyn— mae pawb, ysywaetb,
j'n gwybod hyny, a'i ferch ei hun heb fod yn eitbriad, ac wedi
ymddwyn felly. Ond y mae Mr. Huws yn ífortunus— mae yn
rhaid i mi ddweyd hyny yn eich gwyneb, Susi, ydyw yn
ffortunus iawn, a 'does genyf fi, bellach, ond byw ar adgofion
— adgofion hyfryd, y mae'n wir, ond nid ydynt ond adgofion —
a cheisio ymfoddloni i'r hyn a elwir yn faìlen greatness. Ac DÌd
y fi ydyw yr unig un a syrthiodd o ben y pinacli'rbaw. Xage.
Ond nid ydyw yr heu lew wedi marw eto, ac y mae ynddo fwy
o vìettle nag y mae llawer yn ei ddychymygu— dydio ddim yn
gant oed eto— ac, hwyrach, y gwelir y Capten — gyda bendith
yr Hwn a'i llwyddodd flynyddoedd yn ol, yn rhywun gwerth
ymgyngnori âg ef."
Nid oedd Susi wodi disgwyl am ymadroddion cnoawl fel y
rhai byn, ac ebe hi, a'i geiriau fel pe buasent yn glynu yn ei
gwddf—
"Nhad, ùdaru mi ddim bwriadu eich brifo wrth beidio ym-
gynghoii à chi, a mae'ch geiriau yn fy liadd. Ac hyd yn nod
yn awr, os byddwch bob amser fel yr ydach chi heno— yn sobr,
yn garedig a mwyn, mi alwaf fy addewid yn ol, os ydach chi'u
deyd wrtho i am wueud hyny."
" Beth ?" ebe"r Capten, " merch Capteu Trefor yn torl ei
haddewid ? Na, fy ngeneth anwyl, pe buasech wedi rhoi eich
addewid i'r meinar tlotaf sydd yn darn Iwgu yn Nghoed
Madog mi fuaswn yn eich gorfodi i'w chyflawni, os buasai hyny
o fewn fy ngallu. Nid ydyw ' tori addewid ' yn hanes Captea
Trefor, nac yn deilwng o prestige ei deulu. Ond y mae yn
rhaid i mi ddweyd eto fod Mr. Huws yn ddyn Iwcus, ac o dan
yr amgylchiadau hwyracb na allasech wneud yn well. Ehowch
eich meddwl yu esmwyth, fy ngeneth auwyl, yr ydwyf, uiewn
ffordd o siarad, yn mawr gymeradwyo yr hyn yr ydych wedi ei
wneud — yn wir, y mae yu dda genyf feddwl y cewch fyw-
ioliaeth beth bynag am sefyllfa, a chan nad beth a ddaw
o honof fi, mi a ymaberthaf — mae y plwyf a'r tlotty i
bawb."
2:

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence