Skip to main content

‹‹‹ prev (191)

(193) next ›››

(192)
i88 PR OFEDIGAE THA U
PENNOD XXIX,
MAEGED FLAEÎÍ EI GWELL.
Aeth Jones ac Enoc i'r parlwr, fel y dj-wedwyd, a chaiiodtl
Enoc y drws.
" Maddeiiwch fy nghamgymeriad," elìe Jones, " mi feddyl-
iais eich bod yn fy ngalw, a'ch bod eisiau siarad â fi am yr
helynt neithiwr."
" Tr oedd hyny yn ddigon naturiol," ebe Enoc mewn pen-
bleth fawr. Ar ol ychydig ddistawrwydd, ychwanegodd Enoc,
" Ddaru chi sûn am yr helynt wrth rywun, Mr. Jones ? "
" Dim peryg, Mr. Huws," ebe Jones, " neiff hi mo'r tro i
blismoa sûn am bobpeth y mae yn ei weled ac yn ei glywed
yma ac acw, na, dim peryg."
" Ddaru chi ddeyd dim wrth y'ch gwraig," gofynai Enoc.
" Wrth fy ngwraig, Mr. Huws ? Na, fydda i byth yn dweyd
dim wrth unrlnjw türaig ond pan fyddaf eisiau arbed talu i'r
tonm crìer," ebe Jones.
" Mae'n dda gen' i glywed hyny ; ond yr wyf yn hynod o
anffortunus," ebe Enoc yn drist.
" Peidiwch a blino dim yn nghylch y peth, dydio ddim ond
common case, Mr. Huws," ebe Jones. " Chwi syuech pe dy-
wedwn i wrthoch chi y cwbl a wn i am bethau sydd yn digwydil
mewn teuluoedd respedalìe, na Avyr y byd ddim am danynt.
Mae plismon, syr, yn gweled ac yn clywed mwy nag a ddyliai
neb, ond mi fyddaf bob amser yn dweyd na ddylai yr un dyn
sydd mewn busnes, ac yn enwedig cs bydd yn cadw tŷ, fod heb
briodi. Y natur ddynol ydyw y natur ddynol dros yr hoU fyd,
syr."
Edrychodd Enoc yn myw llygad y plismou fel pe buasai yn
ceisio dyfalu gwir ystyr ei eiriau, a chan nad allai gael bodd-
lonrwydd, rhoddodd ei galon dro ynddo, ac ebe fe gyiìa
theimlad —
" Mr. Jones, ydach chi ddim yn moiddio awgrymu dim ain
burdeb fy nghymeriad, ydach chi ? "

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence