Skip to main content

‹‹‹ prev (169)

(171) next ›››

(170)
1 66 PR OFEDIGAETIIA U
chyffredin, a'i bod heb dtleíîro yn hoUol. Am unwaitb, or
mawr ryfeddod i Enoc, ni ofyuodd Marged " pa fodd yr oedd y
gwaith mein yn dyfod ymlaen," ond gyda ei fod wedi tynu ci
esgidiau, a hithau wedi estyn ei slipars iddo, edrychodd Marged
yn myw llygad Enoc gyda chymaint o ddifrifwch, fel ag i'w
adgofio am ei hen ffyrni^n'wydd, ac ebe hi —
" Wel, mistar, be ydach chi'n feddwl neud ? "
Edrychodd Enoc am foment braidd yn yswil, a meddyliodd
fod Marged, o'r diwedd, yn myn\l i sûn am Miss Trefor, ac nid
annifyr oedd hyny ganddo, ac ebe fe, gyda gwên ar ei enau —
" At be yr ydach chi'u cyfeirio, Marged ? "
"Atbe yr ydw i'n cyfeirio ? " ebe Marged, " on' wyddoch
chi o'r gore at be yr ydw i'u cyfeirio. Isio gwbod ydw i
be 'dach chi'n feddwl neud, achos y mae'n bryd i chi neud
rhwbeth."
"Wel," ebe Enoc, dipyn yn wyliadwrus, " yr ydw i braidd
yn gesio at be yr ydach chi'n cyfeirio, ac mi wnaf addef /cí^ yn
bryd i mi wneud rhywbeth, a gobeithio na fydd hi ddim fel
hyn o hyd. Oud fedr dyn ddim cael ei ffordd ei hun bob
amser, chwi wyddoch hyny, Marged."
" Be sy'n rhwystro i chi gael y'ch ffordd y'ch hun ? 'Rydach
chi wedi cael y'ch ffordd y'ch hun er's gwn i pryd, a be sy'n
rhwystro i chi gael y'ch ffordd y"ch hun 'rwan ? " ebe Margod.
" 'Dydach chi ddimyn gwybod pobpeth, Marged," ebeEnoc,
" Mi wn hyny'n burion," ebe Marged, " mi wa nad ydw i'n
dallt dim am fusnes ; a ddaru chi wel'd rhwfun rw dro oedd yn
gwbod pobpeth ? 'Eydw i'n meddwl y gwn i sut i gadw tý
cystal a neb a welsoch chi eto, beth bynag."
" 'Ewyf bob amser yn dweyd, fel y gwyddoch chi, Marged,"
ebe Enoc yn fwyn, " nad oes eisiau eic'n gwell fel hoiisehceper.
Ydw i ddim wedi dweyd hyny laweroedd o weithiau,
Marged?"
" Be arall fedrech chi ddeyd," ebe Marged, mwy na heb y n
dawel.
"Gwir iawn," ebe Enoc. "Ond dyna oeddwn i yn myn'd i
ddoyd: 'rydach chi wedi hintio y mod i yn hir yn gwneud
rhywbeth, ac felly yr ydw i. Ond fedr dyn ddim gwneud
pobpeth y mae yn ei ddymuno. Mi wn eich bod yn teimlo yn
unig yn yr hen dŷ mawr yma ar eich pen eich hun, yn enwedig
er's pan ydw i wedi dechrea myn'd i Dy'nyrardd, ac yn aros

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence