Skip to main content

‹‹‹ prev (165)

(167) next ›››

(166)
102 PROFEDIGAETHAU
toimlai Eaoc yn siomedig os äi diwrnod heibio heb i nob
gyfeirio at deulu Ty'nyrardd. Yr oedd rhai o'i gwsmeriaid—
mwy gonest na chall — yn meiddio siarad yn anfwyn am wrth-
rych ei serch, ac er na ddywedai Enoc ddim (yr oeddynt yn
gwsmeriaid da) tystiai ei wyneb nad hyfryd oedd ganddo
glywed eu hymddyddan, ac, yu ei galon, yr oedd yn cashau
pob un a sibrydai air anmharchus am Miss Tiefor. Deuai uu
wraig dafodrj'dd i Siop y Groes bob nos Sadwrn pan fyddent
ar fin cau. Protestiai y wraig hon fod Enoc a Miss Trefor yr
un ffunud a'u gilydd, ac er fod Enoc yn cymeryd arno ei fod
wedi blino ar ei stori, sylwai y cynorthwywyr y byddai efe bob
amser yn rhoi sxced& i blant y wreigan hou.
Er mor gyffredinol oedd y grediniaeth yu ngharwriaeth Enoc
a Miss Trefor, yr oedd uu na allai oddef sôu am y peth, ond fel
chwedl fîôl a disynwyr, a'r un hono oedd Marged, liouselìecpcr
Enoc ei hun. Cyfaddefai Marged fod ei meistr yn mynychu
Ty'nyrardd yn lled gyson, ond yr oedd yn gnrfod gwneud
hyny, meddai hi, am ci fod wedi bod mor ffôl a dechreu
♦'mentro." Ond uid oedd hi wedi bod yn Siop y Groes am
gyhyd o amser heb wybod meddwl ei meistr, ac yr oedd sòa
am i'w meistr hi biiodi rhyw ddoli a ífifflen anfedrus fel Miss
Trefor yn insult i synwyr cyffredin yu ngolwg Marged. Byth
ar ol y noson y dywedasai Enoc wrth Marged y gwnaethai hi
wraig ragorol, a'i fod yn resyn o beth ei bod heb briodi, yr
oedd y ddau wedi byw ar delerau hynod o hapus. Yr oedd
Marged mor dirion a chyweithas, ac mor ofalus am ei gysuron
ac am gario allan ei ddymuniadau, ac hyd yn nod ei awgrym-
iadau, fel nad allai Enoc ddyfalu rheswm am y cyfnewidiad
dymunol hwn yn ei hymddygiad, oddigerth ar yr ystyriaeth ei
bod wedi ei breintio á synwyr newydd 'spon. Ehoddai Encc
y fath bris ar y gwelliant hwn yn ei gartref, fel y darfu iddo,
un noswaith, o hono ei hun, grybwyll wrth Marged am godiad
yn ei chyflog. Ond ni fynai Marged glywed am y fath beth —
yn wir, 'doedd ganddi hi, meddai, eisiau dim cyflog ond juít
ddigon i gael dillad symol teidi. Sylwasai Enoc, gyda phleser,
fod Marged, yn ddiweddar, wedi ymdecàu gryn lawer. Tipyu
o slyfen a fuasai hi bob amser, a difyr gan Enoc oedd sylwi ar
geisiadau Marged i fod yn fain ei gwasg ac yn fin-geuad.
Ond er gwueud ei goreu yu y ffordd hon, lled aflwyddianus a
fu ymdrechion Marged — yn enwedig gyda'r wasg— oblegid wedi

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence