Skip to main content

‹‹‹ prev (150)

(152) next ›››

(151)
ENOC HUWS. 147
fyddai diin eisiau gwasanaeth na Herod na Herodias — fe fj'ddai
crefyddwyr am y cyntaf i ddwyn ei ben ar ddesgl i ífrynt y sêt
fawr ! "
" Thomas, Thomas! " ebe Dafydd. " Yr ydach chi'n myn'd
yn fwy eithafol bob dydd. Mae arnaf ofn fod gormod o'r
ysbryd tori peuau ynocli chwithe, Thomas bach. Mae goddef
ciii gilydd mewn cariad, yn gymaint dyledswydd a dweyd y
gwir. Ond yr ydan ni wedi crwydro oddiwrth y pwnc er's
nieityn. Mao gen' i ofn oddiwrth siarad Phillips y bydd o, fel
'roeddach chi'n dweyd, yn dwyn enw Mr. Simon o flaen yr
eglwys."
" Mae hyny cystal ag wedi cymeryd lle," ebe Didymus.
" Wel," ebe Dafydd, " os i byny daw hi, gofalwch, Thomas,
am fod yno, a d'wedwch eich meddwl yn rhydd ac mewn
ysbryd llednais."
" Ddof ü ddim ar y cyfyl, Dafydd Dafis, gwnaed eglwys
Bethel ei photes," ebe Didymus.
" Dyna hi yn y pen," ebe Dafydd, " 'rydach chi isio i bobl
fod yn onest a dweyd y gwir, a phan ddaw hi i'r pwsh yr ydach
cbi am droi'ch cefn."
" Chwi wyddoch, Dafydd Dafis," ebe Didymus, " pe deuwn
i yno, mai y gwir a ddywedwn heb flew ar fy nLfifod. Ond
nid y gwir a fyddai o ngenau i yn ngolwg mwyafrif eglwys
Bethel. Mi wu mai dafad ddu ydwyf yn nghyfrif llawer o
honynt, a phe bawn yn dweyd fy meddwl yn onest, edrychid
arnaf fel un yn rhegi Israel."
" Gadewch i hyny fod," ebe Dafydd. " Dowch chi yno, a
d'wedwch eich meddwl yn onest ac mewn ysbryd priodol. A
da chi, Thomas, peidiwch ysgrifenu dim yn nghylch y peth i'r
papyr newydd. Tydw i byth yn gwel'd y papyr fy hun, ond
mae nhw'n dweyd i mi eich bod yn ysgrifenu pethe halit iawn
weithiau."
" Mae ysgrifenu i'r papyr," ebe Didymus, " yu rhan o'mus-
nes i, fel y mao hau maip yn rhan o'ch busnes chwithau, a
phobl gignoeth sydd yn dweyd fy mod yn ysgrifenu pethau
hallt — dydi'r croeniach yn cwyno dim." ^ ^Lŵ^ <^Í'
" Wae_th i chi befo, Thomas," ebe Dafydd, " dydi çodi_godr_e ^ LiJL-ê^
crefyddwyr ddim yn waith ag y baswn i yn hidio am ei wneud. ^^\ *
Mao digon yn barod at y gwaith hwnw heb i ni ci wneud o."
" Mae Uawer, hefyd," ebe Didymus, " yn ddigon parod i roi

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence