Skip to main content

‹‹‹ prev (45)

(47) next ›››

(46)
42 PROFEDIGAETHAU
hun yn gapteu ar y gwaitli. Meddyliai pawb ei fod yn ddar-
ganfyddiad arddercliog. Ond ofuwn i o'r dechreu mai troi allan
yn dwyllodrus a wnai, ond cedwais hyny i mi fy hun, a
gobeithiwn y goreu. Yr oeddwn yn adnabod Mr. Fox, o
Lundeii, er's blynyddoedd — mi wyddwn hyd ei gydwybod — a'i
fod yn gwybod yn ùùa sut i weithio'r oracl. Mi ddropies lein
iddo dd'od i lawr. Yr oedd Mr. Fos ymayn uniou, heb golli
amser, fel dyn am fusnes. Cymerais ef i wel'd Pwyllygwynt.
Bu agos iddo ffeintio pan welodd yr ' olwg,' ac oni bae fod ei
galon fel maen isaf y felin, buasai yn cz-io fel plentyu. Yr
oedd o wedi darn wirioni, ac yn gwaeddi ac yn neidio fel ffwl.
Mor falch a llawen oedd o, fel y gallasai, mi gymra fy llẃ, fy
nghario arei gefu am ddeng milldir! Gwyddwn i o'r goreu pa
fath ddyn oedd ^^w i i ymwneud âg ef, ond ni wyddai ef ddim
am danaf fi. Yr oedd wedi cael allan yn yr liotd cyn i ni
gychwyn i wel'd PwUygwynt fy mod yn Fetbodist, ac ni
wyddai yn iawn sut i siarad à fi. Ar y dechreu yr oedd yn
wyliadwrus ryfeddol pa beth a ddywedai. Mr. Eox oedd ei
enw, ac yr oedd yn ateb i'w enw i'r dim. Yr oedd yu grefydd-
wr mawr yn ei ffordd ei hun y diwrnod hwnw, ac ar ol bod ya
gwel'd Pwllygwynt, pan oeddym yn cael cinio, ar ol iddo ofyn
bendith, holodd gryn lawer am hanes crefydd yn Nghymru, a
chyraerodd gryn lawer o drafferth i ddangos mai yr un pethau
oedd y Scotch Presbyterians a'r Methodistiaid Calfinaidd.
Gwyddwn o'r goreu mai yr un peth oedd o a minau, ac ebe ü
wrtho, ' Mr. Pos, nid dyna'r pwnc heddyw. Yr wyf yu
gwybod am danoch chwi er's blynyddoedd, ond ni wyddoch
chwi ddim am danaf fi. Mi wn pan fydd gwaith mŵn yn y
cwestiwn na chaiff crefydd, gyda chwi, fod ar y ffordd i'w
rwystro i'w wneud yn llwyddianus. Mae eich profìad — nid
eich profiad crefyddol yr wyf yu feddwl — yn fawr. Eiu pwnc
ni heddyw ydyw sut i wneud sôn a siarad am Bwllygwynt, i
flürfio cwmni cryf a chael digon o arian i'u dwylaw. Chwi
wyddoch fod yn y Gwaith ' olwg ' ardderchog, a chwi ydyw y
dyn yn Llunden, a minau ydyw y dyn yma— beth byuag fydd
hyd eich cydwybod chwi yn Llunden, yr un byd yn union
fydd hyd fy un inau yma ! ' Wedi i mi siarad fel yna ysgyd-
wodd Mr. Pox ddwylaw efo fi, a galwodd am botel o champarjne,
ac o'r dydd hwnw hyd heddyw ni fu gair o sôn am grefydd
rhyngom. Yr ydach chwi'n adwaen Mr. Fox, onid ydach

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence