Matheson Collection > Clych adgof
(109)
Download files
Complete book:
Individual page:
Thumbnail gallery: Grid view | List view
![(109)](https://deriv.nls.uk/dcn17/7655/76559033.17.jpg)
Rhydychen. log
Dywedais wrth y clerc, yr hwn a ŵyr holl ^''^
gyfrinion yr arholiadau, fy mod wedi pasio, ond
nas gallwn ei hysbysu ar hynny o bryd gyda pha
i-yw ogoniant. " Os dowch yma am un o'r
gloch," meddai, " cewch drwydded las, wedi ei
harwyddo gan yr holl arholwyr." Tybiwn y
byddai honno yn gymaint o drysor a llawysgrif
Jowett. Ond, pan ddois yn ol un o'r gloch, nid
oedd yno bapur glas i Audoenus íilius Audoeni.
Dywedais wrth y clerc fod rhyw gamgymeriad.
Cyrhaeddai gwên fawr y clerc i flaen ei ddwy
glust wrth ddweyd y gwneid camgymeriadau
lawer yno bob dydd arholiad. " Dengys, syr,"
meddai, " nad ydych wedi pasio."
Rhuthrais ymaith o Rydychen, ac yn y daith
dren hir oefais deimlo holl ingoedd balchder
wedi ei glwyfo, a hunanoldeb wedi ei lethu.
Rhoddais bob gobaith am anrhydedd fel ysgol-
haig 1 fyny, a phenderfynais fod Rhagluniaeth
wedi taro'r hoel ar ei phen wrth fy ngwneyd yn
îugail defaid. Ond gwnaeth fy ymweliaid à
Rhydychen fi'n fwy pwysig lawer na fy haedd-
iant yn fy ardal fynyddig. Mynnai rhai fy mod
yn wr o radd ; a phan fyddwn wedi gwneyd
araeth fwy eithafol nag arfer yn Swper y Bug-
eiliaid, dywedai gŵr v Bryn fod holl awdurdod
moesol Rhydychen y tu cefn imi.
Daeth dau israddolyn o Falliol heibio'm cartref ,
ymhen rhai blynyddoedd. Ymysg fy nhrysorau,
danghosais iddynt lawysgrif Jowett. Wedi syllu
arni, ac edrych ar eu gilydd, — " Brown," medd-
ai Smith, " dylem ddweyd wrth Mr. Ab Owen
mai nid llaw Jowett ydyw hon, ond llaw y
llechgi hwnnw o was y negesydd."
j^,r-«-"^^
i^

Set display mode to: Large image | Transcription
Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated.
Early Gaelic Book Collections > Matheson Collection > Clych adgof > (109) |
---|
Permanent URL | https://digital.nls.uk/76559031 |
---|
Description | Items from a collection of 170 volumes relating to Gaelic matters. Mainly philological works in the Celtic and some non-Celtic languages. Some books extensively annotated by Angus Matheson, the first Professor of Celtic at Glasgow University. |
---|
Description | Selected items from five 'Special and Named Printed Collections'. Includes books in Gaelic and other Celtic languages, works about the Gaels, their languages, literature, culture and history. |
---|