Skip to main content

‹‹‹ prev (99)

(101) next ›››

(100)
loo Clych Adgof.
nyf ar fy muriau, — ^pob un wedi ei sicrhau wrth
y mur a phedwar pin. Y diwedd fu cael ysgwrs
ddifrifol â'r Undodwr am ei gredo. Trwy nerth
€Ì resymau, ond yn bennaf oherwydd melusder
seiniau ei grwth, profodd i mi ei fod yn fath o
Gristion.
Treuliais lawer o'm hamser ar Eodfa'r Môr.
Ar ol te gwelid yno hen berson tal yn cerdded
yn ol a blaen ; a medrais dynnu sgwrs â hwn
hefyd. Nid heb beth ofn, oherwydd tybiwn
mai gwaith person ar y Sul oedd melldithio
dadgysylltwyr a bendithio'r stiward ; ac mai ei
waith yn yr wythnos oedd darganfod melldith-
ion a bendithion newydd at ei ddau bwrpas.
Ond ni soniai yr hen fab hwn am ddim felly.
Yn hytrach soniai am bobl ereill, o brif baffiwr
y dydd hyd i brif orthrymwr y byd. Yr oedd
ei feddwl yn Uawn o'r hyn sy'n darawiadol yn
hanes y byd, a chanddo ef y olywais i am Hanes
a Ehydychen.
Yr oeddwn yn awyddus iawn am wybod i
ble'r elai'r athrawon ar y Sul, a holais lawer.
Ceisiais wybod hefyd faint o honynt oedd yn
ddirwestwyr, gan feddwl troi y rhai nad oedd-
ynt i'm meddwl fy hun am ddiodydd meddwol,
— sef mai y diafol a'u dyfeisiodd oll, yn fore yn
hanes y byd, fel y byddai dyn syrthiedig yn
ysglyfaeth sicr iddo. A mwyaf oedd amynedd
a dioddefgarwch yr athrawon boneddigaidd hyn,
cryfaf yn y byd oedd fy awydd innau am eu
gwneyd mor rinweddol ag oeddynt ddysgedig.
Ryw dro, hwyrach, caf ysgrifennu hanes
athrawon cyntaf Coleg Prifysgol Cymru.
Yr im fu a mwyaf o ddylanwad arnaf fi oedd
Daniel Silvan Evans, yr athraw Cymraeg. Ych-
ydig ddisgyblion oedd ganddo, gan nad oedd

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence