Skip to main content

‹‹‹ prev (94)

(96) next ›››

(95)
Y Bala. 95
yng ngwerin Cymru. Os daw ei obeithion oU i
ben, bydd dydd disglaer yng Nghymru yn
amser da Duw. Pan yn gadael Bod Iwan yr
oeddym wedi penderfynu gwneyd a fedrem i
wasanaethu ein gwlad a'i gwerin. Wrth fynd
i lawr, daeth Mr. Jones gyda ni ran o'r ffordd,
a throisom yn ol i edrych arno'n araf ddringo'r
rhiw tuag adref.
Y mae'r meddyg yn ein disgwyl, a'r te.
" Uwd a Rhodd Mam fydda i'n preicribio iddo
fo, welwch chwi," ebe'r meddyg am danaf fì.
"Y mae wedi bod yn yr ysgol er's blynydd-
oedd, ond nid ydi o ddim wedi dysgu lìhodd
Mam eto ; y mae hwnnw'n deyd fod gan ddyn
gorff, heblaw enaid. Ac nid ar de y medr y
corfî fyw." Daeth llu o ddifìr hanesion, ac aeth
yr amser yn chwim. Nid oedd wiw meddwl am
fynd i rwyfo awr neu ddwy ar y llyn ; y mae
prysurdeb y dyddiau hyn yn gwneyd gorffwys-
dra'n beth sy'n perthyn i'r amser fu. Y mae
a fynno amser anhyblyg y tren lawer â'r prys-
urdeb di-ddaioni hwn ; yr oedd mab y f ren-
hines yn ei golli'r diwrnod o'r blaen, ac yn gor-
fod ymdaro gore gallai mewn ti'en pysgod. Coll-
ais innau'r tren unwaith ar adeg bwysig, er nad
wyf fab i frenhines, a gorfod i mi gyd-deithio
â sach flawd, yr hon a'm gwnaeth mor wyn a
phe buasai gwenwisg am danaf.
Grwaith anodd ydyw gadael y Bala bob am-
ser ; yr oedd yn anhawddach nag erioed ar ddi-
wedd y pi-ydnawn hafaidd hwnnw. Gwyddwn
am lawer aber ddedwydd, a chysgod dan goed
cyll ir ar ei glan ; gwyddwn Ue'r oedd y corn
carw'n tyfu ar lethrau'r bryniau uwchberi y llyn
a lle'r oedd mafon cochion ddigon yng nghysgod
y gwrychoedd; adwaenwn lawer hen gymeriad

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence