Skip to main content

‹‹‹ prev (74)

(76) next ›››

(75)
Fy Nhad.
/3
byw yno, a pha rai enwog, yn enwedig pregeth-
wyr, a t'agesid yno. Cadwodd ireidd-dra ei blen-
iyndod drwy ei fywyd, yr oedd pob peth yn
llawn rhyfeddod iddo.
Yr oedd yn hoff o bob peth byw. Yr oedd
ganddo gân, ac enwau yr hoîl adar wedi eu gwau
ynddi. Gwyliai'r defaid a'r cwn a'r gwartheg
íel pe buasent yn meddu enaid a meddwl, a
gwelai rywbeth tarawiadol yn eu bywyd o hyd.
Ni chlywais ef erioed yn ameu amcan neb, nac
yn dweyd gair angharedig am neb yn y byd. ^ /j-^^
Digiai wrth un am enllibio neu ddweyd geiriau
di-chwaeth, ond ni ddywedodd air erioed i friwio
teimlad neb. Ni chlywais air drwg na di-
chwaeth o'i enau. Gallwn ddweyd am dano ar
lan ei fedd, fel y dywedai Ap Vychan am ei fam,
• — "Dyma un na chlywodd ei blant erioed air
tìrwg oddiar ei wefusau."
Hwyrach y meddyli yn dy ddiniweidrwydd,
ddarllennydd mwyn, mai rhyw angylion bach o
blant oedd fy mrodyr a minnau, ac mai hawdd i
fy nhad oedd cadw ei dymer wrth ein magu.
Ond, os tybi hyn, syrthi i gamgymeriad. Yr
wyf yn cofìo fod fy nhad unwaith wedi ei wa-
hodd i briodas, ac wedi prynnu het befar ucheJ
loew ar gyfer y dydd. Y noson cyn y briodas
medrodd fy mrawd a minnau gael gafael yn yr
het newydd, ac aethom a hi allan i'r caeau i
wneyd arbrawfion arni. Eisteddasom gefn-gefn
ar ei phen, a'n traed ar ei chantal. Codasom
ein traed ein dau ar unwaith, a gollyngodd yr
het danom. Yr oedd fel conrertina. A chyn
ei dychwelyd i'w chas, yr oedd dau borchell
bach, — un du ac un gwyn, — wedi bod yn trwsio
tipyn ar ei ohantal yn ol eu mympwy eu hunain.
Ond, wedi eiliad o gythrwfl meddwl, cafodd fy

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence