Skip to main content

‹‹‹ prev (65)

(67) next ›››

(66)
66 Clych Adgof.
Heb gyflog y gweithiodd. Ac un o anhaws-
derau blaenoriaid y ddiadell fechan oedd dysgu
eu brodyr i gyfrannu. Cyn hir iawn daeth y
rhan fwyaf i deinilo y pleser sydd mewn rhoi'n
wirfoddol, a daeth eu dyddordeb yn y capel yn
ddau-ddyblyg. Er mai wrth eu diwrnod gwaith
yr oedd llawer o honynt, yn ennill eithaf swllt
yn y dydd i gadw teulu, yr oeddynt yn cyf-
rannu sofren yr un ar gyfartaledd at godi coleg
y Bala.
Ymy&g y pregethwyr ddoi i'w dysgu amlaf
yr oedd Dr. Parry, un oedd yn mediiu athrylith
i ddysgu'n ddeniadol ac yn glir ; Cadwaladr
Owen a'i ddawn felus ; John Davies Nerquis, yn
dangos pethau rhyfedd o Ddiarhebion Solomon
a Chân y Caniadau ; William Prydderch a Ffuwc
Ifan, yr efengyl a'r ddeddf ; a llawer mab ath-
rylith wyllt,— Dafydd Dafis Cowarch, Dafydd
Rolant, a Robert Tomos Llidiardau. Yn ef dro,
doi 'hen of hefyd, un o'r fro hon, (/r enw Tomos
Dafis, ond yr oedd wedi tatlu i fyw i Felinbyr-
hedyn. Pur ddigrif oedd, ac yr oed 1 ei gydmiu-
iaethau cartrefol yn darawiadol iawn. Pan
ddaeth un tro, yr oedd gŵr ieuanc o'r ardal yn
dechreu pregethu. Gŵr ieuanc gordduwiol oedd
hwnnw, un eiddil coesfain breichfain, wedi
dysgu'r Beibl allan ac adrodd salmau ar hyd
ei oes. Daeth yr hen of ato, cymerodd ef o'r
neilldu, y.c ebe ef, gyda phwyslais pwysig ar ei
eiriau, —
" Fy machgen i, yr wyt ti ar gyohwyn ar
waith mawr, ac y mae gen i gyngor iti."
" Oes, Tomos Dafis," ebe'r bachgen, gan droi
Ilygad glâs fel llygad sant arno, "ibyddaf yn
ddiolchgar iawn am gyngor ar yr argyfwng
pwysig hwn yn fy mywyd."

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence