Skip to main content

‹‹‹ prev (59)

(61) next ›››

(60)
6o Clych Adgof.
Ond er gwaeled eu hemynnau cyntaf, yr oedd
greddf brydyddol o'r iawn ryw yn y cretyddwyr
hyn ; a buan y deallasant fod bywyd a gwirion-
edd yn emynnau amaethwr Pant y Celyn yn sir
Gaer Fyrddin, ac ym merch Dolwar Fa'ch yn sir
Drefaldwyn. Yn union wedi dechreu'r ganrif
hon, yr oeddynt yn canu, —
" Dyma babell y cyfarfod,
Dyma gymod yn y grwatd.'
Nid oeddynt heb eu hanawsderau ychwaith.
Llawer o dywydd welodd Ifan Ffowc, hen gyng-
horwr ffyddlon yn eu mysg. Llawer ystryw fu
gan y diafol i rwystro i Ifan Ffowc wneyd
daioni. Cododd ddannodd enbyd arno unwaith
ar ddydd gwaith, gyda golwg ar y Sul a'r bre-
geth ar ei gyfer. Aeth Ifan Ffowc i'r Bala
ar nawn Sadwrn, wedi nos dngol, i dynnu'r dant.
Cerddai adre'n llawen gyda gian Llyn Tegid,
wedi cael gwared hollol o'i boen. Yr oedd heb
gysgu er ys nosweithiau, yr oedd awel braf y
nos yn dwyn cwsg melus i'w amrantau ; aeth
dros y clawdd, a gosododd ei hun dan dderwen
ar lan y llyn i gysgu, am ennyd. Pan ddeffrodd
Ifan Ffowc, gwelodd fod y diafol wedi ennill
y dydd ar ol y cwbl, — ^yr oedd haul nos Sul yn
suddo o'i olwg dros y mynydd yr ochr ai'all i'r
llyn. Dioddefodd Ìfan Ffowc dipyn o ei'Iid
oddiwrth ei wraig hefyd, yr hon a ofnai y collai
ei waith pannu oherwydd ei grefydd.
Nid rhai wedi colli golwg ar eu gwaith yn y
byd hwn oedd pobl y seiat, — nid oedd eu gon-
estach yn y plwy, na gweithwyr caletach. Yr
oeddynt yn barod i ddioddef o achos cydwybod
pan fyddai eisiau, ond ni ruthrent i wyneb trei-
alon er hynny. Ambell adeg, danghosent

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence