Skip to main content

‹‹‹ prev (55)

(57) next ›››

(56)
56 Clych Adgof.
arno. Yr oedd yn dir-feddiannwr yn ei ardal,
ac felly'n fwy anibynnol na'i gyd-grefyddwyr,
y rhai oedd braidd i gyd yn denantiaid i dir-
feddianwyr oedd yn coleddu efengyl arall, — tir-
feddianwyr edrychai ar y seiat fel melldith i'r
wlad, oddigerth pan fyddai eisiau cyfarfod
gweddi i rwystro'r gwair bydru ar gynhaeaf
gwlyb, neu i rwystro'r adlodd losgi'n golsyn gan
angerdd gormod gwres. Yr wyf yn cofìo un
peth am yr ysgrifennwr hwnnw, — byddai ar-
no awydd parhaus am olchi ei ddwylaw.
Byddai pasio dwfr meddal cynnes, heb roddi ei
ddwylaw ynddo, yn ormod o demtasiwn iddo.
Yr oedd arno awydd cadw pob peth yn làn.
Llawer gwaith y bum yn mynd a'i lythyrau i'r
post, gyda chyngor yn fy nghlustiau, — "Os bydd
arnat eisiau ysgrifennu Uythyr, cadw ef yn ber-
ffaith lân, fydd yr un duwiol yn rhoi bysedd
budron hyd ddim." Digon prin y niedrid ym-
ddiried y llythyrau i'm bysedd i heb ddeilen
bob ochr i'w hamddiffyn; a byth er hynny, y
mae gweled ol fy mys ar unrhyw beth yn
gwneyd i mi holi fy hun a ydyw'm cymeriad
yn peidio gadael ystaen ar y bywydau ieuainc
yr wyf yn dod i gyffyrddiad â hwy.
Hwyrach, ddarllennydd, iti glywed son am
blwyf ym mysg plwyfydd Cymru o'r enw Llan-
uwchllyn. Nid yw hynny yma nac acw, o ran
hynny ; ond am seiat y lle mynyddig hwnnw yr
wyf yn mynd i son. Ni ddywedaf ddim am y
lle, ac am y bobl ni ddywedaf ond ychydig, —
sef eu bod yn gorfod gweithio'n galed am eu
tamaid, a'u bod yn fwy crefyddol ac yn hoffach
o feddwl na thrigolion Uawer Ue y gallaswn ei
enwi. Ond y mae'r lle'n ddigon tebyg i leoedd
ereiU fel y gallwn gymeryd ei seiat yn engraifft
o filoedd o seiadau trwv Gvmru.

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence