Skip to main content

‹‹‹ prev (42)

(44) next ›››

(43)
Hen Fethodist. 43
natur, — derw o'r iachaf a phres o'r puraf, — a
gwelwyd fod gobaith iddo, er gwyllted fu ei
yrfa ac er mor agos i'w ddinistr y bu.
Rhoddwyd ef mewn cartref newydd, gyda
phobl o fuchedd weddus, dwys eu teimlad,
mwyn eu natur, a hoff iawn o ganu. Bu'n
tician yno amjawn ugain mlynedd, gan ennill
parch trwy reoleidd-dra di ball ei waith, cyn
i'w gartref ddod yn gartref Methodistiaeth yn
y fro honno. Yr oedd y cloc wedi pasio drws
Pen y Geulan ar ei ffordd i Lyn Tegid yn amser
y " Llif Mawr." Safodd y ty yr adeg honno,
er fod y cenllif wedi ysgubo dros holl waelod y
dyffryn o'i flaen. A byth ar ol adeg y rhy-
ferthwy, newidiodd yr afon ei gwely, a chymer-
odd Iwybr newydd rhyw led cae oddiwrth Ben
y fJeulan, feJ pe buasai arni gywilydd o'r difrod
wnaethai yn nydd ei chynddaredd gwallgof.
Felly hefyd_y gwelais wr fuasai feddw'n gwneyd
pan yn cyfarfod ei weinidog,— cerddai yr ochr
arall i'r heol, yn ddistaw, a'i benì lawr. Erbyn
heddyw y mae hen wely'r afon wedi ei droi'n
ffordd : rhed hithau draw yn ddistaw, fel pe
mewn cywilydd byth am y dydd y bu hi a'r
cloc yn rhuthro am y cyntaf tua'r Ilyn. Rhwng
y ffordd â Phen y Geulan y mae aber dryloew,
— " ffos y felin,"" — yn dwndwr yn hapus o flaen
y ty, fel yjyjilr afon gynt.
Yn y dyddiau hynny yr oedd ysbryd y Di-
wygiad Methodistaidd yn ymsymud dros
Gymru ; gwelid yn weddaidd ar y mynyddoedd
draed rhai yn efengylu, yn cyhoeddi iachawdwr-
iaeth ; a'r pryd hwnnw dechreuodd Gymru ym-
ysgwyd o'r llwch, a gwisgo gwisgoedd ei gogon-
iant. Bu Rowland Llangeitho a Williams
Pantycelyn farw c.yn i bregethwyr y Diwygiad
a'r hen gloc ddod i gwmni eu gilydd ; ond rhwng

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence