Skip to main content

‹‹‹ prev (22)

(24) next ›››

(23)
Ysgol y Llan. 23
Y mae Uawer un yn medru edrych yn ol ar
ddyddiau ei ysgol fel dyddiau dedwyddaf ei
fywyd. Ni fedraf fì wneyd hyn. Y mae Uawer
un yn gwybod mai ei athraw cyntaf roddodd
iddo y trysorau gwerthfawrocaf fedd, — cred
mewn gonestrwydd ac yn Rhagluniaeth, cred
mai lle heulog ydyw'r byd i rywun fo a'i fywyd
yn iawn, cariad at ei gyd-ddyn a pharch tuag
at wŷr i'r rhai y mae parch yn ddyledus. Ni
chefais i y pethau hyn, — y pethau gefais i oedd
teimlad fy mod dan gyfraith haiarnaidd nas
gallwn ei deall, a fod yn rhaid dweyd celwydd
cyn y medrwn achub fy ngham. Ni ddeallais
f'athrawes erioed, oherwydd ni siaradai air
fedrwn ddeall. Buasai'n fendith anrhaethol i
mì pe na welswn yr ysgol erioed.
Ond, i fynd ymlaen gyda'm hanes, yr oedd
dydd i ddydd yn ychwanegu blinder i mi yn yr
ysgol. Nid oedd y llyfrau a roddid o'm bla
ond tywyllwch di-obaith i mi, ac yr oedd yr
esboniadau gynhygid arnynt yn dywyllach fyth.
Collais fy hoen, ac nid oedd blentyai aned-
wyddach yn y fro honno i gyd. Blinodd y rhai
hoffai wrando f'ystraeon arnaf. Gadawyd fi at
drugaredd rhai eiddigus o'm doniau prin, a
churid fi'n ddi-drugaredd hyd nes y dysgais ym-
ladd. Yr wyf yn cofio darganfod fod ysbryd
llofrudd ynnof ryw dro, pan yn anelu c-arreg at
ben bachgen oedd wedi gwneyd i mi golli'm
tymer. Pan dan ofal fy nhad, a than ei addysg,
— er lleied oedd cylch ei ddarllen, — yr oeddwn
yn hapus, a'm henaid yn heddychlon. Ond
niagwyd ysbryd drwg ynnof yn yr ysgol ; ac, ar
adegau, y mae yn fy mhoeni byth. Pan fo
plentyn yn awyddus am ddysgu, ond heb y gallu

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence