Skip to main content

‹‹‹ prev (18)

(20) next ›››

(19)
Ysgol y Llan. ig
gawn i o Ysgol Sul, a chwe diwrnod o ysgol
Saesneg. Fy mhrofiad yn awr ydyw, — yr wyf
yn ddyledus am bob peth i'r Ysgol Sul ; i'r ysgol
Saesneg, nes y daeth Cymro i'm dysgu yn Gym-
raeg, nid wyf yn ddyledus am ddim. Ond, —
fy stori.
Medrais fynd i dy perthynas i mi i gael
tamaid ; yr oedd y plant yn rhy brysur i'm
hatal, pawb yn llawn eisiau bwyd. Ond pan
ddois at y porth tuag un, yr oedd y swn wedi
mynd fod bachgen od wedi dod i'r ysgol, — bach-
gen yn medru peth enbyd o ystraeon o bob
math. Daliwyd fi gan y beciigyn mwyaf, a
gosodwyd fi ar ben carreg, a than boen curfa
gorfod i mi ddechreu ar f'ystraeon.
Toc, er mawr lawenydd i mi, canodd y gloch.
Rhedodd pawb i'r ysgol, a dois innau i lawr o
ben fy mhulpud carreg, a rhedais ar eu hol.
Wedi mynd i mewn, canfyddais yn union mai
ofer oedd fy Ilawenydd, ac y buasai'n well i mi
fod ar ben y garreg nag yn yr ysgol. Ffigiwr
amhriodol hwyrach fuasai dweyd mai o'r badell
ffrio i'r tân y dois, ond teimlwn mai rhywbeth
felly oedd y cyfnewidiad. Gwell i mi, wedi'r
cwbl, oedd trugaredd prin ac amynedd byr fy
nghyd-ysgolheigion nag anghyfiawnder yr ysgoi-
feistres.
Yr oedd rhywun direidus wedi rhoi pin a'i
ben i fyny ar y fainc, yn y lle y disgwylid i mi
eistedd ar fy nyfodiad i'r ysgol. Tybiai'r
plant, mae'n ddiau, y dylaswn anfarwoli'm dy-
fodiad i'r ysgol trwy lamu oddiar y fainc, a
rhoi bloedd erchyll, heb un rheswm canfydd-
adwy am y fath hyawdledd. Ond fel y di-

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence