Skip to main content

‹‹‹ prev (11)

(13) next ›››

(12)
12 Clych Adgof.
ysgol, yr oedd A ar ewin un fawd imi, a B ar
ewin y fawd arall ; a'ni tasg am yr wythnos oedd
cofio'r ddwy lythyren hyn. Yr oedd gen i
ystraeon mwy difyr na'r A a'r B, ond rhoid taw
arnaf mewn munud pan soniwn am fiodau drain
neu nyth dryw. Daeth diwedd yr ysgol, ac er
fy llawenydd dyma hwy'n dechre canu pennill
fedrwn, yn araf araf fel swn y gwynt. Yr
oedd golwg henaidd arnaf fìnnau'n ti'eio canu,
er mawr ddifyrrwch i'm cyfoedion, —
" Dewch hen ac leuanc dewch,
At lesu, mae'n Uawn bryd ;
Rhyfedd amynedd Duw
Ddisg'wyliodd wrthym cyd ;
Aeth yn brydnawn, mae yn hwyrhau,
Mae drws trug'aredd heb ei gau."
Hyd yn hyn yr oeddwn wedi bod yn weddol
ddi-brofedigaeth. Ond wrth fynd adre, cofiais
am fy nillad newyddion, a betiais a bachgen
pengoch fod gennyf fwy o fotymau nag ef, — hen
lafn cyllell yn erbyn ìppI wedi ei gwneyd yn
dop sgwrs oedd y fet. Yr oeddwn wedi cyfri
holl fotymau fy nillad newyddion, a'r botwm
oedd ar fy nghap, ond yr oeddwn ddau fotwni
ar ol. " Dangos fotyme dy wasgod," ebe un
o'r bechgyn. Yr oedd dau fotwm ar fy nghrys ;
a mentrais ddangos nad oedd gennyf wasgod, er
mwyn oael cyfrif y rheini. Ond ni fedrai yr
un o honom gau'r gôt yn ei hol. Dywedais yr
hanes yn onest wedi mynd adre, a chefais fy
chwipio, am falchder, ac am fetio ar ddydd Sul.
Ar ddiwrnod gwaith nid wyf yn cofio i mi
fod yn segur erioed cyn mynd i'r ysgol. Pan
na fyddwn yn gwneyd da, byddwn wrthi â'm
holl egni'n gwneyd drwg. Er hyn yr oedd
awydd adeiladu yn gryfach ynnof nag awydd

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence