Skip to main content

‹‹‹ prev (334)

(336) next ›››

(335)
XI. 99a-100c NODIADAU 239
rac chwyd mywn breich dyn . . . or tebygy idaw gornwydaw
(h.y llidio, casglu, gori) ; S.E. 1 "an abscess", 2 "the
plague" ; Exodus ix, 10, efe a aeth yn gornwyd Uinorog
ar ddyn ac ar anifail.
99a bwyat : gw. ar I, 25a.
inneu. Dengys hyn efallai fod yma ddau yn ymddiddan.
Os felly, Heledd sy'n edliw i'r llall ei gwynfan ; etyb yntau
yn 99, gan hawlio bod yn frawd i Elfan a Chynddylan.
I hyn yr etyb hithau, "Nid rhai wylofus oedd fy mrodyr i !"
Daw'r ateb yn 101, "Oni bai am angau, a mawr glwyfau, ni
chwynwn innau chwaith !" Yna daw'r englyn marwnad i
Eirinued, a Chynon, fel petasai'r clwyfedig yn un ohonynt
hwy, a'i glwyf wedi ei ddwyn i angau. Neu ynteu, rhodder
y cyfan i gyd i Heledd, a dal mai hi sy'n dioddef dan
gornwydydd yn ei thlodi a'i thrueni. Pe felly, anodd gweld
grym lOOa b. Credaf fod Heledd yma hefyd yn chwarae
ei rhan arferol, yn null I, 4c ; IV, 1-6, ac wedyn yn edifaru.
99b nys cwynei : gw. ar III, 15b.
99c vn . . . deu, wrth rifo, cf . B.T. 79, 24, pymp gwregys terra.
vn yssyd oer a deu yssyd oer, ar frydyd yssyd wres ; 80, 2,
vn yw yr asia, deu yw yr affrica, tri yw europa.
lOOa ny mat : gw. ar I, 32a.
briger, gwallt llaes, arwydd y dyn rhydd ; cyferbynner â
phen eiUiedig y mynach, arwydd caethiwed, cf. B.T. 17,
Gwyr gwychyr gwallt hiryon . . . o iwerdon dybyd.
nyw dirper, nis haedda : gw. W.G. 278-9, ar nyw, y
negydd a gwrthrych y ferf. Rhaid i'r gŵr "brigerawg"
gyfiawnhau ei hawl trwy ei wrhydri ym mrwydr.
lOOb cywryssed, cweryl, ymryson, brwydr. Oherwydd tebyg-
rwydd w i / gynt, cymysgir cywrysedd a chyfrysedd, y naill
o gwrys a'r llall o rhysedd, gw. R.C. xxxii, 27 ; xxxix, 62 ;
xl, 370, cf. W.M. 246b, mynet yggwrys wrthaw y geissaw
ydiuetha ; M.A. 187a, Kyngengywrysseia.mgywrysdeh.eu ;
258b, y goueird ar beird yn hywryssed yr pan vu elffin
yghywryssed vaelgwn.
lOOc lleuawr, Ilefawr, wylofus ; cf. M.A. 197b, H.320, Anwar
don lauar lettawr wrthi.

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence