Skip to main content

‹‹‹ prev (159)

(161) next ›››

(160)
64 CANU LLYWARCH HEN I. 9b-lla
Yn wir, gellid darll. gwasgarawc gyda T, a chymharu
redegawc yn 6a uchod.
Y mae'r 11. yn iyi o ddeusill neu dri. Pe rhoddid cereint
neu cenueini i mewn, a gair unsill wedyn, fel llif, ceid ystyr
dda. Hawdd fuasai neidio dros cenueint o fiaen neint ;
ond ni roddai hynny odl ar y pumed heb wthio gair arall
i mewn. Gan nad oes awgrym yn y llsgr., gwell ymatal.
9b armaaf, gw. uchod ar 3b. Gwna arfaethaf y tro fel
ystyr yma hefyd ; ei arfaeth yw peidio â chilio nes bod ei
darian yn dyllog.
9c ysgwyt br(w)yt briw. Ansoddair "toredig, tyllog" yw
briw yma ; cf. 7b, 8b ; M.A. 183a, ar daryan daer daluriw;
B.A. 34, 10, scuyí grugyn . . . tal briv bu. Ni ddeallaf bryt
yn y cysylltiad hwn : darll. brwyt, gair o ystyr gyffelyb i
briw, sy'n digwydd yn aml gydag ysgwyt, fel ei gyfansawdd
tryfrwyt; cf. R.P. 147a, Gnawt vot ysgwyt vrwyt vriwdoll
arnaw. Gan y disgwylid treigliad ar ôl gair benywaidd fel
ysgwyt, fel a geir yn y dyfyniad uchod, deallaf brwyt briw
y testun fel olion hŷn orgraff megis yn B.A. 34, 10, neu
ynteu bai wrth gopîo, darllen v o fath neilltuol fel b. Mewn
ambell law anodd gwahaniaethu rhyngddynt ; gw. hefyd
G. 79a ar brwyt.^
techaf, "ffoaf, ciliaf yn ôl" ; cf. Gw. techim "1 flee" ;
B.A. 1, 13; 31, 16, etc. ; ac isod III. 3c; XI, 84b. Ar
kynn yn union o flaen berf, gw. ar 5c.
lOa a'th rodes di Vryen. Anwybyddir y rhagenw ôl di yn
y mesur. Rhagenw perthynol yw'r a ; yna daw 'th,
rhagenw mewnol, cyflwr datif. Ar Urien gw. y Rhag-
ymadrodd. Ewythr Gwên ydoedd o gefnder ei dad, cf.
isod ar 22b.
lOb arwest, "llinyn, tant", gw. P.K.M. 193, G. 43b.
lOc o'th daw, o os ; 'th fel yn lOa ; "os daw iti".
lla ergryt, yn ôl D. " tremor, horror", o er a. gryd. Gwell
gennyf dybio mai ar- affeithiedig i er- o flaen y yn y sill
nesaf yw'r rhagddodiad, ac mai cryd "cryndod" yw'r enw,
cf. H, 16, Etliiw dy ergryd yn eithauoet byd. Ei ystyr yw
"ofn, arswyd" ; cf. ei gyfystyr ergryn (o cryn), Pen. 14, 4,
o ovyn ac ergryn.

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence