Skip to main content

‹‹‹ prev (95)

(97) next ›››

(96)
xcii RHAGYMADRODD
§21. Y TESTUN
Seiliwyd y testun printiedig ar iin y Llyfr Coch a'r Llyfr
Du yn bennaf. Rhois deitlau oedd eisoes yn y Uawys-
grifau i VIII, X, ond myfì sy'n gyfrifol am bob teitl arall,
ac am yr ymgais i dorri'r cyfan i fyny yn ymsonau ac
ymddiddanau. Cywired y darllenydd. Rhois ddarllen-
iadau John Jones GeUi Lyfdy (P) a Thomas Wilhams o
Drefriw (T) o'r Llyfr Gwyn, yn y testun weithiau, bryd
arall ar waelod y ddalen. Yno saif R am destun y Llyfr
Coch yn ôl Dr. Evans. Popeth a chwanegais at destun
y llawysgrif rhois ef rhwng bachau petryal, [], a defnydd-
iais italig i nodi geiriau nad oes mo'u hangen i bwrpas
mesur. Mi biau hefyd yr atalnodi.

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence